Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gwae ni. Fe ddigwyddodd hyn yn y gorffennol ac mae'n para i ddigwydd. John Jones, B.Sc., gwyddonnydd gwych gwybodus ond dinesydd anobeithiol, hollol ddi-wreiddiau. Efallai mai'r Ysgol Uwchradd a'r Brifysgol yw'r pechaduriaid mwyaf yn hyn o beth. Rhag i minnau golli fy nghytbwysedd, brysiaf i ddweud fod rhai Ysgolion Uwchradd yn ymboeni am baratoi nid yn unig swyddogion effeithiol ond dinasyddion cyfrifol yn ogystal. Gellir synhwyro fod ein cyfundrefn Addysg yn gorbwysleisio "Utili- tarianism". Yn ein cylchgronau addysgol ceisir denu rhai i feysydd bras technolegol, heb fod yn glir iawn technoleg i beth. Ceisiwyd yn ofer hyd yma geisio cydio Prifysgol yr Awyr wrth y cerbyd technolegol hwn. Wrth gwrs fod technoleg yn fuddiol, ond trasiedi ein dysg gyfoes yw diffyg delfryd neu arwyddocad. Priod swydd addysg yw ysbrydoli'r disgybl i gael synnwyr o werthoedd a'r gallu i ddewis, neu i wahaniaethu rhwng, yng ngeirfa'r saint, y pethau sydd o dragwyddol bwys a'r pethau dros amser. Ni chollodd yr ysgolion y weledigaeth hon yn llwyr, er iddi bylu yn aml; gallwn honni gyda R. Williams Parry ein bod "yn fydol ac ysbrydol yr un pryd". O safbwynt y Gyfundrefn ymdrech i gyflawni'r ddau amcan yw papur fel "The Use of English". Trueni na chaem bapur cyffelyb at y Gymraeg. Clywais ddarlithydd yn Adran Mathemateg Coleg y Brifysgol, Bangor, yn dweud na fyddai'r Cymry Cymraeg byth yn manteisio ar y cyfle i ysgrifennu dim yn Gymraeg yn yr Adran er iddynt gael eu cymell i wneud hynny. Nid eu bai hwy mo hynny. Y mae'n arwyddo'n dda i'n gwareiddiad ni fod cynnifer o'r VI Dosbarth yn astudio'r ceì- fyddydau; ac ar yr ochr ymarferol fod cynnifer ohonynt yn ym- ddiddori mewn pethau fel y Gwasanaeth Gwirfoddol dros y môr. Anghyflawn fyddai trafodaeth ar ddysgu yn yr Ysgolion heb sylwi'n fyr ar gynnwys yr hyn a ddysgir. I raddau mae hyn ynghlwm wrth yr amcanion y soniais amdanynt eisoes. Rhaid wrth Fioleg i fod yn feddyg; i drafod busnes a pheirianyddiaeth rhaid cael Mathemateg. Dyma addysg alwedigaethol. Heddiw fe welir hyn i gyd ar siart yr Athro Gyrfau, gŵr pwysig iawn bellach yn yr Ysgol Uwchradd. Ond beth am ddeunydd gogyfer â'r amcan arall: y bwriad o ysbrydoli'r disgybl i fod yn ddinesydd cyfrifol a delfrydau'r gym- deithas gyfan yn gonsern iddo. I fwydo enaid dinesydd gwâr mae'n hanfodol dysgu Hanes, gwrtaith anhepgor i'w wreiddiau. Y