Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR IAITH GYMRAEG YN Y LLYSOEDD gan I. Bowen Rees, M.A., (Oxon) Cyfreithiwr Yn ol Adran I o Ddeddf yr Iaith Gymraeg, 1967, gall "unrhyw barti, neu dyst neu unrhyw un arall sy'n dymuno'i defnyddio" siarad Cymraeg mewn unrhyw weithrediadau cyfreithiol yng Nghymru. Dileir Rhan I y Welsh Courts Acts, 1942, a gyfyngai'r hawl i siarad Cymraeg "i unrhyw barti neu dyst a ystyria ei fod o dan anfantais oherwydd mai Cymraeg yw ei iaith naturiol i gyfathrebu". Fodd bynnag, deil gweddill Deddf 1942 mewn grym, a rhaid felly cadw cofnodion y llys yn Saesneg a chyfieithu'r gweithgareddau Cymraeg (ag eithrio'r llwon) oni farna'r barnwr "nad yw eu cyfieithu'n angenrheidiol i sicrhau fod cyfiawnder yn cael ei weinyddu yn briodol ac yn gyhoeddus". Peth hollol newydd yw fod Adran 1 o'r Ddeddf newydd yn dweud y gellir gwneud rheolau yn mynnu rhybudd ymlaen llaw pan fo'r Gymraeg i'w defnyddio mewn llysoedd heblaw llysoedd ynadon. Pa wahaniaeth ymarferol a wna'r Ddeddf? Hyd yn oed cyn i Ddeddf 1942 ddileu'r adran honno o Ddeddf Uno 1536 a wa- harddai i swyddogion ddefnyddio'r Gymraeg, gweithredid yn Gymraeg yn ami mewn ardaloedd Cymraeg eu haith. Dywedodd y Barnwr Artemus Jones, yn 1932, fod yr arfer yn dra chyffredin yr adeg hynny yn y llysoedd sir a'r llysoedd bach, a phery felly mewn siroedd fel Sir Feirionydd. Tan Ddeddf 1942 caniatai mwyafrif y llysoedd i'r tyst ei hun farnu a oedd o dan anfantais ai peidio, ac fel arfer nid oedd raid iddo hyd yn oed honni ei fod felly cyn cael defnyddio'r iaith. Cymerodd un neu ddau lys yna- don agwedd lymach pan ymddangosai o'u blaen ddiffynyddion y tybid eu bod wedi ceisio cael eu herlyn er mwyn gwneud propa- ganda ynglyn a statws israddol eu hiaith. Gweithredai'r llysoedd hyn ar sail achos diweddar lle dyfarnwyd nad allai un fanteisio ar ei hawliau o dan Ddeddf 1942 trwy'n unig honni anfantais, ond fod yn rhaid iddo naill ai fod felly mewn gwirionedd neu gredu'n ddiffuant ei fod. Fodd Bynnag, y mae'n amheus faint o oleuni a rydd yr achos hwn (R. v. Merthyr Tydlìl Justices ex. p. Jenkins, 1967. I ALL E.R. 636) ar gwestiwn yr iaith. Am fod ennill apel o'r math arbennig yma ("certiorari") yn fater o ras yn ol ewyllys y fainc yn hytrach nag yn fater o brofi bod rhywbeth o'i le yn unig, dyfarnodd Arglwydd Parker