Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymraeg fel grwp. Yn y pen draw dibynna cyfundrefn gyfreith- iol ar barch y cyhoedd. Os gweinyddir Deddf yr laith Gymraeg yn gwbl grintachlyd gan y llysoedd fe gollant gryn lawer o barch yng Nghymru, ac, fe feiddiaf ddweud, yn Ewrob hefyd. *Er pan ddaeth y Ddeddf newydd i rym ar 27 o Orffennaf, 1967 ni ddarparwyd ond ychydig iawn o ffurflenni, a rhoddodd nifer o lysoedd ynadon, gan gynnwys Castell Nedd, Dolgellau a Bangor, ryddhad di-amod heb gostau i ddiffynyddion a oedd yn amharod i ufuddhau i rai ffurfioldebau (e.e. cael trwydded deledu, arddangos trwydded car) hyd nes ceid dogfennau yn Gymraeg. **Er hynny yn ôl R. V. Thomas (1933) 24 Criminal Appeal Reports 91, nid yw affidavit gan reithiwr Cymraeg i'r perwyl nad yw wedi deall crynhoad Saesneg Barnwr yn ddigon i gael diddymu dedfryd. Ymddangosodd yr erthygl wreiddiol yn Saesneg yn The New Law Journal Gorff. 4, 1968, a diolchwn i'r Golygydd am ganiatad i'w chyfieithu a'i defnyddio. (Gol.). Cyfieithiad gan W. BROTHEN JONES