Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Troi ar y dde yn y Bontnewydd a chyrchu tir Beulah a Llan- wrtyd. Yr oedd y rhan hon o Sir Frycheiniog yn ddieithr i rai ohonom, ond ni welsom fawr arni, nac ar lechweddau Epynt, am fod hugan llaith y niwl dros bobman. Rywle'r ffordd yma, ar lannau Irfon, a lleddwydy Llyw Olaf ar 11 Rhagfyr, 1282. Gwelsom fynegbost yn cyfeirio i'r chwith tua Chilmeri lle mae maen coffa iddo. Yn Llanwrtyd, a Llanddewi a Llanfihangel Abergwesyn gerllaw ("ye two Aber gwessyns"), y bu Williams Pantycelyn yn gurad (i Theophilus Evans) 0 1740 hyd onid ym- adawodd â'r Eglwys yn nechrau 1744. Toc yr oeddym yn croesi'r ffin i Sir Gâr. Gwlad wyllt oedd o'n cwmpas, ac yr oedd y dyfnderau islaw yn peri inni gofio llinellau Williams: "Cul yw'r llwybyr imi gerdded, Is fy llaw mae dyfnder mawr." Ond daeth pethau'n well ar ôl inni ddisgyn i ddyffryn Brân. Yma, 'allwn i, a minnau'n un o ddyffryn Conwy, lai na chofio am John Richards, y telynor a'r gwneuthurwr telynau o Lanrwst, a dreul- iodd flynyddoedd olaf ei oes ym mhlas Glanbran gyda Sackville Gwynne, gŵr bonheddig a oedd yn noddwr hael i delynorion. Yr oedd John Richards a Williams Pantycelyn yn gyfoeswyr; byddai'n ddiddorol cymharu gyrfa'r ddau .y naill yn delynor uchelwr a\r Hall yn "glerwr y nef". Bu Williams fyw am ychydig gyda blwyddyn ar ôl John Richards. Mae beddau'r ddau ym myn- went Llanfair-ar-y-bryn. Un o ddyffryn Brân hefyd oedd Rhys Prydderch, Ystradwallter, bugail eofn corlannau bychain yr Ym- neilltuwyr ar odre Epynt, ac athro tan gamp-g-wr y bu ei ddylan- wad yn fawr ar John Williams, Cefncoed, tad Williams Pantycelyn. Ym mynwent Llanfair-ar-y-bryn safasom wrth fedd Williams -yn bennoeth yn y glaw; wedyn, mynd i mewn i'r eglwys a chael blas ar ganu rhai o'i emynau yno. Yn anffodus, 'doedd yno neb i'n cyfarwyddo at fedd John Richards, a buasai chwilota amdano ar y fath ddiwrnod yn golygu gwlychu at y croen. Ymlaen â ni, felly, i Lanymddyfri, tref y Ficer Pritchard, "bardd Cristiongol y werin anllythrennog", chwedl Gwenallt, a heibio i gapel coffa Williams (un Saesneg! "Williams Panycelyn Memorial Chapel" yw'r arysgrif arno) a dilyn y ffordd tua'r dwyrain, gyda glan afon Gywdderig, am Bentre Tŷ-gwyn a Phantycelyn.