Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oedd ar eu ffordd i Frynaman i "Bererindod" ieuenctid Sasiwn y De), aethom rhagom i Dal-y-llychau. Gweld yr hen abaty yno, a chanu emyn Thomas Lewis, y gof ("Wrth gofio'i riddfannau'n yr ardd"), yn yr eglwys. Yna mynd i gapel Crug-y-bar a chanu rhai o emynau Dafydd Jones o Gaeo yn y fan honno. Rhagom wedyn i Gaeo ei hun (neu Cynwyl Gaeo i roi'r enw llawn) y dywaid Aneirin Talfan amdano nad oes "bentref mor gyforiog o hanes nac mor llawn o awyrgylch" yn Sir Gar na Chymru gyfan (Crwydro Sir Gâr t. 41). Ond yn emynwyr y lle yr oedd ein diddordeb ni; John a Morgan Dafydd, y cryddion, o'r Bedw Gleision, a John Jones, awdur yr emyn gwych, "Trwy ras 'rwyf, Arglwydd, ger dy fron"; a Dafydd Jones, wrth gwrs, y porthmon o Gwm Gogerddan, y buom yn canu rhai o'i emynau gynnau yng Nghrug-y-bar. 'Aethom ni ddim i Gil-y-cwm, er gwybod ohonom fod Morgan Rhys, a aned yno yn yr Efail Fach, yn gawr o emyn- ydd; yn wir, pan yw ef ar ei uchelfannau, megis y mae, er eng- hraifft, yn "Fyth, fyth, rhyfedda' i'r cariad", a "Tragwyddol glod i'r cyfiawn", a "Dan gysgod gwych y pren", 'does dim curo arno. Mae dyn yn rhyfeddu ar rym y cyffro ysbrydol a oedd yng Nghymru yng nghyfnod yr emynwyr hyn. Y cyffro hwnnw, a elwir gennym y Diwygiad Methodistaidd, a'u gwnaeth yn emyn- wyr; ie, ac yn deithwyr hefyd. Teithiodd amryw ohonynt yn helaeth. Williams Pantycelyn yn fwy na neb, gan bregethu, a sefydlu seiadau a'u harolygu. Gellir dweud bod Cymru gyfan, yn wir, yn "wlad Pantycelyn". Ond 'fuasai ef ei hun byth yn meddwl peth felly. "Dyn dieithir" ydoedd ef yma: "pererin" yn ceisio "gwlad sydd well". Mewn gwirionedd, nid yn hyn o fyd y mae "gwlad Pantycelyn", nac yr oedd hi chwaith. +Dosbarth Cefn Coch, Maldwyn.