Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR 0 RHOSLAS Gan R. H. ROCHELL Yn fynnych gofynnir y cwestiwn imi: "Beth yw pwrpas y W.E.A.?" Ond ni theimlais erioed fy mod wedi rhoi atebiad hollol foddhaol. Yn hytrach rhyw ymdeimlad fod y cwestiwn, fel y cwestiynwr, yn negyddol, dall ac amherthnasol. Tebyg iawn yw i'r cwestiwn y cewch ei ofyn bob tro pan yn ymgeisio am waith neu swydd newydd: "pam yr ydych eisiau y swydd yma?" A phawb yn gwybod na ddisgwylir i'r atebwr ddweud y gwir i gyd. Ni phoenais i erioed am bwrpas y W.E.A. oherwydd edrychaf arno fel rhan o ymgais dynoliaeth y chymdeithas i godi gorwelion gwybodaeth, a chyfoethogi bywyd pob un a ymdrechai i gyrraedd rhyw nod a safon o wareiddiad a diwylliant. Mae mwy nag un wedd felly i bwrpas y W.E.A. Ar y dechrau fe sefydlwyd y W.E.A. i gyfarfod ag angen y werin bobl am addysg bellach, yn arbennig weithwyr cyffredin a amddifadwyd bron yn llwyr o addysg uwch na'r tri R. Sylweddolent mai addysg oedd yr all- wedd i fywyd llawnach: erfyn i ennill eu brwydrau am well safon byw; a gwrthrych i rannu profiadau a syniadau am gynnwys, pwrpas, a chyfeiriad cymdeithas. Arweiniai hyn oll i fesur hel- aeth o hunan ddisgyblaeth, rhyddid personol, a'r gallu i weld yn glir y cysylltiad rhwng addysg a chyfrifoldeb democrataidd. A dyma'r eglurhad paham y sefydlwyd y W.E.A., yn hytrach na dibynnu ar barhad sefydliadau fel yr "University Extension Move- ment" a'r mudiadau dyngarol eraill a oedd wedi cychwyn ar y gwaith o ddiwyllio'r werin. Yn sicr yr oedd yn rhaid iddynt dderbyn a pharchu awdurdod yr athrawon, ond ni fynnent ar un- rhyw gyfrif gael eu hamddifadu o'r cyfle i drafod y wers. Mynnent ryddid i drefnu'r cyrsiau eu hunain, a gwrthwynebent unrhyw ymgais gan awdurdodau i reoli; pery'r tyndra hwn hyd heddiw. Erbyn heddiw y mae'r tyndra hwn wedi ymledu i'r Prif- ysgolion, ac yn wir i gymdeithas drwyddi draw. Ym myd addysg heddiw y gri yw am fwy o 'participation'. Dyma'r hyn a hawliai efrydwyr cyffrous Prifysgolion Ffrainc; ac yn ei ateb i'r genedl yma'r gair a ddefnyddiodd De Gaulle wrth addo y byddai'n gweith- redu i'r cyfeiriad yma. A dyma'r ddwy blaid boliticaidd fawr ym Mhrydain yn eu cynadleddau yn agor eu dadleuon gyda phwyslais ar y geiriau 'Individualism' a 'Participation'. Beth yw arwyddocad hyn oll? Yn syml ac yn fyr: na fodlonai'r unigolyn o