Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddinasydd yn unig ar haelioni na gweithgarwch yr 'awdurdodau'. Meddai'r Athronydd David Hume yn un o'i draethodau: 'People be most troublesome, when they be most contented.' Ond gwell fyth yw geiriau'r ysgrythur 'Nid ar fara yn unig y bydd byw dyrr\ Gwelwn felly fod mwy o bwysigrwydd i fodolaeth Mudiad Addysg y Gweithwyr na threfnu dosbarthiadau. Gellir gwneud hyn yn uniongyrchol gan adrannau y Prifysgolion ac Awdurdodau Addysg fel math o wasanaeth. Ond heb ryw fath o gymdeithas wirfoddol a democrataidd, y duedd fyddai i fagu setiau snobydd- lyd ar un llaw, ac ar y llaw arall noddwyr uniongred a hunan barchus. Prif bwrpas y W.E.A. o'r cychwyn fu, nid i hyfforddi aelodau er mwyn arbenigo mewn pynciau proffesiynol, nac ychwaith yn bennaf i lenwi oriau hamdden yr hen a'r blinedig, ond i gyfoethogi a chefnogi ymdrechion y rheini ohonom ag sydd yn rhoi gwerth ar gyfraniad meddwl ac ysbryd i fywyd dyn; ac yn dymuno siarad â'n gilydd yn gyfrifol a deallus am y problemau enfawr a wynebwn ymhob agwedd o'n bywyd modern. Hwyrach mai dim ond lleiafrif hychan a ddymuna gysylltu eu hunain â'r math yma o ymdrech addysgol a chymdeithasol; ond lleiafrif sydd yn cynyddu ydyw oherwydd yr ymdeimlad ein bod yn cael ein hanwybyddu gan ddatblygiadau cymhleth a chan y galluoedd mawr a drefna ein bywyd. Mae'n amlwg fod yr 'alienation' a'r 'cynicism' sydd yn bodoli heddiw, yn arbennig ymysg ein hieuenctid, wedi dod i fod oherwydd inni golli ein ffydd bron yn gyfangwbl yn y gwell- iannau a ddaw i'n cymdeithas wrth ddiwygio'r peirianwaith llywodraethol yn unig. Wrth ystyried y gwaith o ddiwygio dyn a chymdeithas, gwelwn mai gwaith y lleiafrif fu hyn erioed drwy holl hanes gwareiddiadau'r byd. Mae yn hanfodol felly fod ein pwyslais i fod hefyd ar ein gweithgarwch fel mudiad, ac i wneud pob ymdrech i cryfhau ein grwpiau a'n canghennau i fod yn organnau cymdeithasol. Dylai pawb ohonom yn y Mudiad felly, wneud ymdrech arbennig y tymor newydd hwn sydd ar ddechrau a chymryd pob cyfle i drefnu darlithoedd cyhoeddus, ysgolion undydd, a chynadleddau lleol i hybu trafodaethau cyhoeddus ar faterion a'n blina ni fel unigolion ac fel cymdeithas. Cyfeiriais yn y Rhifyn diwethaf o Lleufer; at y math yma o weith- garwch a wnaed ar hyd a lled y Rhanbarth ac yr wyf yn falch iawn o weld fod rhai canghennau wedi dechrau'r tymor hwn eto gyda'r un math o gyfarfodydd.