Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU "EBAN, Y LLEBAN LLWYD" Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd (Golygwyd gan E. G. Millward). Gwasg Prifysgol Cymru, 1968. tt. 210. 40/- "Eben Fardd oedd arwr mawr fy nhad", meddai hynafgwr wrthyf dro byd yn ôl; a sôn am ei dad yn cerdded ei frawd ac yntau pan oeddynt yn fechgyn, bob cam o'u cartref yn Llyn i Glynnog, a gwneud iddynt sefyll yn bennoeth wrth fedd Eben Fardd. "A 'mrawd a finna' jest â llwgu", meddai, "ac wedi hen 'laru ar Eben Fardd, a dweud y gwir!" Cofiais hyn yna pan ddaeth "Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd i'm llaw. Mae'n debyg fod Eben Fardd yn arwr i lawer ers talwm, ac yn dipyn o oracl yn ei oes hefyd. Hwyrach na fyddai felly petai cynnwys ei ddyddiadur yn wybuddus! Dengys y Detholion hyn mai gŵr o gyffelyb nwydau â ninnau ydoedd, a bod ynddo liaws o fychanderau a gwendidau. Ond peth anrasol fyddai bod yn rhy drwm arno; "heb ei fai, heb ei eni". Serch hynny, gwae a gadwo ddyddiadur! Nid goleuni ar gymeriad y dyddiadurwr yn unig a geir yn y Detholion hyn, ond goleuni hefyd ar amrywiol agweddau bywyd Arfon ac Eifionydd yn ei gyfnod. Fel y dywaid y Golygydd yn ei Ragymadrodd, y mae'r dyddiadur "o gryn werth i'r sawl sy'n ym- ddiddori yn hanes a bywyd cymdeithasol Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Down i adnabod "Eban, y lleban llwyd," a thrwyddo ef dysgwn am natur ei gyfnod a bywyd ei gylch (t.xviii). Yr haf diwethaf bu aelodau Cylch Llenyddol Bro Ddyfi yma yn pererindota (efo ceir modur!) yn Eifionydd. Buom yn rhodio heddwch y Lôn Goed ac yn ymweld â'r Gaerwen, cartref Dewi Wyn, a buom wrth fedd Dewi Wyn ym mynwent Llangybi, ac wrth Ffynnon Gybi; yn y Betws Fawr hefyd a Chapel y Beirdd, ac ym mynwent Abererch lle mae bedd Robert ap Gwilym Ddu. Bu'r 'pererindota' hwnnw yn baratoad da i mi ar gyfer darllen y Detholion hyn, oblegid dyna wlad Eben Fardd yntau, er mai yng Nghlynnog y treuliodd flynyddoedd ei anterth a'r rhan helaethaf o'i oes, sef o Fedi 1827 hyd ei farw yn Chwefror 1863. Yr oedd yn hoff iawn o ymweld â bro ei faboed yn Eifionydd. Mae'n disgrifio'r Lôn Goed-"Maughan's new road", fel y geilw