Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

slowly" (t. 129); "Wife taken with great hoarseness" (t. 103). Dro arall mae'n cyfeirio at ddigwyddiadau o bwys mewn cylchoedd gwladol ac eglwysig-etholiadau seneddol a phethau felly. A hwyrach, yn wir, petai wedi sôn mwy am ei farddoni a'i lenydda y byddai'r Dyddiadur yn llai o ddarlun o fywyd cyfnod. Petai gofod, gellid ymhelaethu llawer. Gellid sôn, er enghraifft, am bererindod ysbrydol Eben Fardd fel y dadlennir hi yma. 'D oes dim dwywaith nad oedd Eben yn wr duwiol-yn ei ffordd ei hun. Wedi'r cwbl, onid duwiol yn eu ffordd eu hunain yw bron bawb sy'n honni duwioldeb? Neu gellid sôn amdano fel sgolor ac athro; mae ei Saesneg yn rhyfeddol o dda, a chofio'i anfanteision; mae'n wir ei fod ambell dro yn cael cam gwag, ond mae'n hawdd maddau iddo. Neu gellid sôn am ei agwedd at gystadlu, neu-a bod yn gas-am ei ariangarwch. Sut bynnag, rhaid diolch yn fawr i E. G. Millward am y Detholion hyn, ac am ei Ragymadrodd gwerthfawr a'i doreth Nodiadau cynhwysfawr, heb anghofio'r Mynegai-mae hwnnw hefyd yn werthfawr. Un peth sy'n gwbl sicr: 'all neb nabod "Eban, y lleban llwyd" na'i gyfnod, heb roi sylw i'r gyfrol hon. Wm. Williams. RHAID CROESI AFON DRIN, gan Geraint W. Parry. Cyhoeddwyd gan Wasg y Brython. Pris 12/6. Hanes ymchwil ar ôl trysor a adawyd yn Albania adeg y rhyfel sydd yn y nofel yma a'r helyntion hynny sy'n siwr o fod yn gysylltiol â'r fath fenter. Mae'r stori yn cychwyn gyda llofrudd- iaeth yn Llundain ac yn gorffen gyda'r arwyr yn dychwelyd i ddiogelwch yr un ddinas. A beth sy'n digwydd i'r aur? Rhaid i chwi ddarllen y nofel i ddarganfod hynny. I ddod o hyd i'r aur rhaid croesi Afon Drin ac yno daw Serina, Thompson a Peter Lawson wyneb yn wyneb â'u problemau wrth gynorthwyo'r hen deulu bonheddig o Albania. Mae hon yn stori antur gampus, digon o fynd, tipyn bach o serch, cymeriadau da, dihirod, a'r cwbl yn darllen yn rhwydd mewn cyfres newydd yn Gymraeg-gobeithio hynny wir. GWEN GRIFFITHS.