Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y llyfrau i gynorthwyo'r rhai a gelai drafferth, ac ar yr un pryd yn rhoi cyfle iddynt i ymarfer geirfa dechnegol Gymraeg. Mae'r llyfrau yn gynhwysfawr iawn yn ymdrin â phob agwedd o'r diwydiannau pwysig hyn ac eto ar yr un pryd yn llwyddo i gynnal diddordeb y darllennydd. Yn y llyfr ar "Goed" ceir awgrymiadau defnyddiol i gymell y plant i wneud astudiaeth pellach eu hunain. Mae'r pedwar llyfr yn frith o ddarluniau ar- bennig o dda ac 'rwy'n siwr y bydd derbyniad iddynt ac y defn- yddir hwynt yn helaeth. Gobeithio y cawn ragor o lyfrau tebyg. TOM REES. SBAEN HEULOG. W. Emlyn Jones. Llyfrau'r Dryw, Llandybie, tt. 150. 15/ Mae'n amlwg fod yr ysfa i sgrifennu cyn cryfed yn W. Emlyn Jones â'r ysfa i deithio, oblegid dyma'i drydydd llyfr taith. (Tua'r Dwyrain a Crwydro Groeg, fel y cofir, yw'r ddau arall). Caiff y darllenydd bleser mawr wrth ddilyn yn y gyfrol hon ar ei deithiau helaeth yn Sbaen; mi gefais i beth bynnag a llawer iawn o wybodaeth hefyd. Yn ei bennod gyntaf ("Y wlad a'i phobl") sonia am natur y wlad, hinsawdd ei gwahanol ranbarthau, etc., a rhydd gipolwg bras ar ei hanes o'r gorffennol pell hyd heddiw. Mae'r arolwg cyffredinol hwn wedi ei gwasgu'n ddidrugaredd-o raid, wrth gwrs; ond y mae'n werthfawr fel rhagarweiniad i'r teithio. Dech- reuir o ddifrif ar hynny ym mhennod 2 ("San Sebastian. Loyola"), a hyfryd o hynny i'r diwedd yw mynd o ranbarth i ran- barth ac o ddinas i ddinas yng nghwmni'r awdur difyr hwn. Y mae ganddo ddawn i ddisgrifio-peth anhepgor i awdur llyfr taith. Golygfeydd yng nghefn gwlad ac mewn dinasoedd. afonydd, ffyrdd-strydoedd, adeiladau-yn enwedig eglwysi cad- eiriol, ac y mae toreth o'r rheini yn Sbaen; mae yma ddisgrif- iadau gwych o'r pethau hyn oll ac o lawer peth arall. Ond prin fod y gair "pentwr" yn addas wrth sôn am adeiladau enfawr, er bod y Saeson yn defnyddio "pile" felly. Rhoddir peth o hanes rhai o enwogion y wlad-Ignatius Loyola, Harri o Navarre, y santes Teresa, yr arlunwyr, El Greco a Murillo a Goya, El Cid, Don John a llawer eraill. Weithiau