Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Williams yn ei gyflwyniad i'r llyfr hwn-"Dyma brydydd na ellìr ei anwybyddu gan na darllenwyr cyffredin na beirniaid llenyddol." Bu meddalwch yn nodweddu llawer o'n canu ni, ond mae enw y llyfr yn dangos mai ar hyd llwybrau gwahanol y mae Gwyn Thomas yn cerdded. Y mae'n fardd hyd flaenau ei fysedd, ac y mae ganddo'r ddawn brin i beri cynnwrf a llawenydd yn y dar- llenydd, a'i wneud i ysi am gael darllen mwy o'i waith. Mae ei grefftwaith godidog yn amlwg mewn cerddi fel "Adeiladwaith" a dawn y gwir artist i gyffroi yn amlwg mewn cerddi cofiadwy fel "Hiroshima" a "Monroe" a llu o rai cyffelyb. Cyfrol odidog gan fardd newydd. Llinell gyntaf ei gân "O Llefara" yw "Y mae grym mewn geiriau i gynhyrfu dynion." Ond rhaid cael y gwir artist i'w trin, ac y mae Gwyn Thomas yn sicr yn un o'r rhain. Diolch i Wasg Gee am waith glân a graenus. "DAIL YR HYDRE." W. Leslie Richards. Llyfrau'r Dryw. 9/6. Croeso i drydedd casgliad o gerddi yr awdur amryddawn hwn. Mae yn y llyfr emynau da, englynion crefftus a chywyddau a cherddi eraill sy'n dangos meddwl treiddgar a dawn sicr mewn gwahanol fesurau. Mae'n saerniwr gofalus fel y dengys cerddi fel "Yr Hydre." Hoffaf ei ddefnydd cyfrwys o'i gynghanedd mewn caneuon fel "Cadwynau," ac mi fuaswn i'n hoffi gweld mwy o gerddi fel 'Does dim Barddoniaeth" na rhai fel "Golud Cymru." Y mae ei waith yn dangos cariad mawr at wlad a chymydog, ac at Grist. Y mae rhyw onestrwydd a llawenydd i'w deimlo yn y cerddi. Y mae ambell beth nad wyf yn sicr ohonynt, megis diwedd ei englyn i'r "Gwanwyn." Nid yw'n brin o'r peth gwerthfawr hwnnw-hiwmor, fel y dengys ei englyn i "Pibell." Y mae gyfrol yn gorffen gydag un o'i gerddi gorau os nad yr orau, sef "Diolchaf." Wele'r diwedd: A diolchaf hefyd Am fustl ambell brofiad chwerw Sy'n dyfnhau cydymdeimlad Ag anffodusion bywyd. Gwnaeth Llyfrau'r Dryw waith gofalus.