Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"OD ODIAETH." Robyn Lewis. Llyfrau 'r Dryw. 9/6. Dyma lyfr gwerthfawr o storïau, caneuon ysgafn a dychanol, ac ysgrif. Fel y dywed yr awdur cymysgedd o'r ysgafn a'r trwm sydd yma, ac mae asbri i'w deimlo'n rhedeg trwy'r farddoniaeth a'r rhyddiaith fel ei gilydd. Y mae hiwmor iach yn y ston fer "Gwneud Giaffar," ac mae'r parodi "Rôd Hog" yn effeithiol dros ben. Gallaf ddychmygu adroddwr da yn cael llwyddiant ysgubol wrth adrodd y darn "Charlie's Chimpansi." Dylem groesawu'r gyfrol ddiddorol hon yn fawr iawn. Diolch i'r awdur am y newydd-deb a'r ffresni a'r hwyl. Y mae angen llawer mwy o lyfrau o'r math yma. Diolch i Lyfrau'r Dryw am ddod a'r gyfrol i olau dydd. POETRY WALES. Gaeaf 67-68. Rhif 3. Triskel Press. 4/ Croeso mawr i gyfrol arall 0 "Gylchgrawn Cenedlaethol o Farddoniaeth Newydd." Dyma lyfr a fwynheir ochr yn ochr a'r "Genhinen' 'a "Taliesin" gan y rhai sy'n hoffi barddoniaeth dda a gynhyrchir yng Nghymru. Er bod yma ambell ymgais at strôc, ac mai unig wreiddioldeb eraill yw printio cerddi yn batrymau od ar y tudalen neu fel darnau heb eu hatalnodi fel mewn Cymdeithas Lenyddol ers talwm, y mae y mwyafrif o'r cerddi Cymraeg a Saesneg yn wirioneddol dda. Hoffais yn arbennig "Kingfisher" gan Bryn Griffiths, "Moses" gan Euros Bowen, a "Llanberis Pass" o waith Peter Gruffydd. Y mae'r gyfrol yn haeddu pob cefnog- aeth. Diolch i'r cyhoeddwyr hefyd am waith graenus. YR WYL IFORI. Bob Jones. Llyfrau'r Dryw. 10/6. Cyfrol newydd yn cynnwys y bryddest radio "Dawns y Du" a ddarlledwyd yn Hydref, 1966, gan y B.B.C. Mae bywyd a gwreiddioldeb yn hon, er bod y mesur a ddewisodd weithiau yn swnio i mi braidd yn afrosgo, e.e. merch yn dweud "Mae haul a llygad llydan/Uwch y ty yn edrych tân." Mae rhywbeth yn stroc- lyd hefyd mewn cyfansoddi englyn o 31 sillaf fel ar dudalen 42, ac nid yw dweud "Duw eilw eu cofrestru heddiw" ar ddiwedd y gerdd i blant Aberfan yn deilwng o'r bardd pwysig hwn. Nid yw'r