Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cyffro a deimlid yn ei gyfrolau eraill yn digwydd mor aml. Y mae rhai o'r mesurau yn arbrofion, mae'n siwr gen i, ac mae pob arbrawf yn werthfawr. Ni welaf fod ei ddefnydd o'r gynghanedd yn grymuso dim ar y dweud, na'r mesur cwpledi seithsill di-gyng- hanedd yn llwyddiant bob tro. Ond yn sicr y mae yma berlau, megis y portreadau o Fyfyrwraig a'r Pregethwr Ceidwadol, a'r cerddi "Parchu Duw" a "Cân Ramant." Mewn gair y mae yma ddigon i roi mwynhad mawr i lawer. EMRYS ROBERTS.