Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG HARLECH (COLEG PRESWYL I OEDOLION) Mae'r Coleg yn darparu cyrsiau heb eu hangori wrth yr un alwedigaeth i ddynion a merched dros ugain oed. Cynigir dau gwrs-cwrs blwyddyn, cwrs heb fod ynghlwm wrth arholiad o unrhyw fath, a chwrs dwy flynedd, yn arwain i Ddiploma Prifysgol Cymru mewn Astudiaeth Cyffredinol. Lluniwyd y cwrs hwn yn arbennig ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd am fynd i'r Prifysgolion a'r Colegau Hyfforddi i astudio, ar ôl gadael Harlech. Nid oes angen cymwysterau arbennig i gael eich derbyn. Gellir astudio'r pynciau canlynol-Economeg, Hanes Economaidd, Llenyddiaeth Saesneg, Athroniaeth, Seicoleg, Hanes Politicaidd, Hanes Cymru, Llenyddiaeth Gymraeg, Dysgu Cymraeg, Perthnasedd Diwydiannol Y Cyfansoddiad Prydeinig, Rhesymeg. Yn ystod mis Gorffennaf ac Awst cynhelir ysgolion haf wythnosol mewn amryw bynciau. Ceir manylion llawn gan y Cofrestrydd, Coleg Harlech, Harlech, Meirionnydd. Argraffwyd gan y Welsh Universal Press Ltd., Caxton House, Bangor.