Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CTLCHGRAWN CTMDEITHAS ADDYSG T GWEITHWTR Cyf XXIV 1969 Rhif 3 NODIADAU GOLYGYDDOL (Geraint Wyn Jones) Mewn cyfarfod blynyddol, ysgol yng Nghymru, y dydd o'r blaen dywedodd gwr amlwg ym mywyd addysg ei sir mai gwaith y sustem addysg oedd magu technolegwyr i'r Wladwriaeth. Fe aeth ymlaen i ddangos sut yr oedd technoleg wedi codi ein safon byw (a phwy a wad hynny?) gan ddangos mai amod byd brafiach eto yw mwy o dechnolegwyr. Dagrau pethau yw fod rhelyw'r ath- rawon yn nodio'u pennau mewn cytgord. Y cwestiwn mae'n rhaid ei ofyn, wrth gwrs, yw, brafiach i beth? A phan ofynnir hynny fe edrycha'r sawl sy'n credu'n y syniad atgyfodedig hwn o oes Fictoria arnoch yn hurt. Y mae holl oblygiadau'r gair brafiach, pa mor annelwig bynnag y bônt, yn ddigon i'w fodloni ef. Peth dibwys felly yw gofyn cwestiynau di- bwynt. Gan fy mod i wedi crybwyll oes Fictoria, mae'n ddiddorol sylwi mai syniad digon cul am natur addysg oedd ganddynt hwy- thau hefyd, fel llawer yn ein hoes ni. Dysgu darllen, sgwennu, a rhifyddeg, a disbyglu'n llym, dyna oedd addysg. Ac fe sylwedd- olodd un o leiaf wrthuni a hurtrwydd agwedd o'r fath, a hwnnw oedd John Stuart Mill. Meddai'r gwr deallus hwnnw wrth sôn am o leiaf un o sylfeini addysg: It is the culture which each generation purposely gives to those who are to be its successors, in order to qualify them for at least keeping up, and if possible for raising, the levels of improvement which has been attained." Heddiw, y mae angen pwysleisio'r ochr hon i addysg yn fwy nag erioed. Ond yng Nghymru mae gennym ni broblem ychwanegol-a chael ein bod ni'n cael ein Philistiaid i gytuno fod hon yn un o nodau'r sustem. Pa ddiwylliant yr ydym am ei drosglwyddo? Mae'r ateb i'r cwestiwn ynghlwm wrth agwedd dyn at yr unffurf-