Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YN FRENIN YN EI FRO Mae'n rhyfedd fel y gall ambell i ddyn, oherwydd cyfoeth ei ddoniau cynhenid ac oherwydd maint ei wasanaeth i'w gymdeith- as, ddod, yn ei bwysau, megis, i gael ei gydnabod fel brenin yn ei ardal. Un felly oedd Griffith Davies, Llanuwchllyn, neu Gwyndaf fel yr adnabyddid ef gyda pharch ac anwyldeb gan bawb o'i gyd- nabod. Ym mro ddiwylliedig Llanuwchllyn, magwrfa enwogion lu a chymwynaswyr cenedl, tyfodd Gwyndaf yn ymgorfforiad o ddiwylliant y fro ar ei orau. Megis y gwelid yn y tir a amaethai ôl dwylo dyfal cenedlaethau o'r "gwyr a arddai'r gweryd," gellid canfod ynddo yntau ôl dwylo medrus arweinwyr a fu'n arddu gweryd meddyliau gwerinwyr Llanuwchllyn ar hyd y blynyddoedd. Mewn gair, gwr ag iddo wreiddiau ydoedd, a'r gwreiddiau hynny wedi ymwthio'n ddwfn i hanes a thraddodiad Cwm Penantlliw, Llanuwchllyn a Phenllyn gyfan. Pa ryfedd iddo felly dyfu'n bren cadarn, yn frenin yn ei fro. Brenin nid yn unig ar ei aelwyd ei hun, ond brenin hefyd ar aelwyd gynnes ei ardal, y meddyliai gymaint ohoni. Yn nyddiau ei aeddfedrwydd yr oedd i'w bersonoliaeth urddas brenhinol, a phan lefarai, daliwn ar ei eiriau, fel ar eiriau brenin. Bu iddo deyrnasiad faith. Cyrhaeddodd yr oedran teg o 94, a phe buasai wedi cael byw i weld mis Chwefror y llynedd buasem wedi cael y fraint o'i gyfarch ar ei ben blwydd yn gant oed. Heb amheuaeth yr oedd Gwyndaf yn ddarn mawr o Lanuwch- llyn. Wrth feddwl am hyn, y mae y tu hwnt i'm dirnadaeth sut y gallodd un o'n hawduron, wrth grwydro Meirionnydd, fynd trwy Lanuwchllyn heb hyd yn oed weld Gwyndaf, heb sôn am roddi iddo y sylw a deilyngai. Syndod a siom fawr i mi oedd hyn. Nid yw yn fy mwriad mewn hyn o ysgrif geisio llunio portread cyflawn o bersonoliaeth fawr, athrylithgar Gwyndaf. Gwnaed hynny eisoes, gyda champ arbennig, gan y Parch. Gerallt Jones, cyn-weinidog yr Hen Gapel, lle'r oedd Gwyndaf yr hynaf o'r diaconiaid. Mae'r portread cofiadwy hwn i'w gael yn y llyfr "Awen Gwyndaf Llanuwchllyn," a gyhoeddwyd gan Wasg John Penry yn 1966, sy'n cynnwys casgliad o rai o gyfansoddiadau barddonol Gwyndaf, wedi eu golygu gan James Nicholas. Hoffwn yn hytrach roddi yn syml fy nheyrnged fechan i i'w goffadwriaeth, gan Gwilym Rhys