Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARAF Y DAW YMREOLAETH gan D. Alun Lloyd Ysgrifennaf y nodiadau hyn ddechrau Tachwedd, yn fuan wedi'r olaf o'r cynadleddau politicaidd. Pan mae gobeithion yn codi wedi i'r Unol Daleithiau roi heibio bomio Gogledd Fietnam ond pan nad oes yr un gobaith am ddiwedd (erchyll) i drasiedi Biaffra.Cyn i'r Unol Daleithiau ddewis un ai Nixon neu Humphrey, a chvn cael ewvbod a ddaw George Thomson ac Ian Smith i delerau â'i gilydd. Yn y cynadleddau politicaidd y peth mwyaf arwyddocaol i ni i yng Nghymru oedd i broblem datganoli ac ymreolaeth Cymru (av Alban) gael mwy o le ynddynt nag erioed o'r blaen. Yn naturiol hwyrach, problemau Cymru oedd prif destun cyn hadledd Plaid Cymru ddiwedd Medi. Condemniwyd trais fel moddion i sicrhau ymreolaeth, a'r un mor bendant gwrthodwyd cymryd agwedd wrthwynebol yn erbyn yr Arwisgo y flwyddyn nesaf. Ceisiwyd hefyd wynebu rhai o broblemau economaidd Cymru heddiw ac argymhellwyd rhwydwaith o briffyrdd-peth cwbl hanfodol os yw Cymru i ddatblygu'n ddiwydiannol. Ac yn hytrach na bod boddi rhagor o gymoedd y Canolbarth argymhell- wyd cynllun i gronni arberoedd Dyfi a Mawddach-cvnllun a f»ll" ogai hefyd godi ffordd llawer cyflymach o'r Gogledd i'r De ar hyd arfordir y Gorllewin, tra ar yr un pryd yn agor gorwelion newydd i drefi glannau môr Bae Ceredigion. Yng nghynhadledd y Rhyddfrydwyr wedyn darfu am y dydd iau pan na chyrhaeddai cwestiwn ymreolaeth Cymru yr agenda. Basiwyd yno o blaid ymreolaeth (ffedral) i Gymru a'r Alban. Yna'n fwy annisgwyl fyth, rhoddwyd amser yng nghynhadledd y Blaid Lafur (plaid Llywodraethol y dydd) i drafod cynigion o ganghennau Llafur yng Nghymru a'r Alban yn galw am raddau o ddatganoli ac o ymreolaeth. Cafwyd (o Gymru) areithiau grymus o blaid y cynigion gan y Mri. Ednyfed Hudson Davies, A.S., a John Morris, A.S. A'r dyddiau diwethaf hyn, yn araith y Frenhines, cyhoeddodd y Llywodraeth ei bwriad i sefydlu Comisiwn Cyfansoddiadol i ym- chwilio i gwestiwn datganoli ac/neu ymreolaeth i'r Alban a