Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"A THWYM DDWYFRON Y GWNEUTHUM DDIOFRYD" gan Emrys Roberts Felly y dywedodd y bardd o Ryd-Ddu ynte? Dyna yr oeddwn innau'n wneud y bore hwnnw, yn fachgen pedair ar ddeg oed, yn syllu trwy ffenestr y trên ar y ffordd i Ysgol 'Bermo (melys goffad- wriaeth). Y noson gynt yr oedd 'Steddfod y Plant wedi bod yn y Penrhyn, a minnau wedi gyrru cerdd i mewn i gystadleuaeth y gad- air. Cerdd a debygwn i oedd yn mynd i fod yn gyfraniad syfr- danol i lên y byd. Ond druan ohonof! 'Roedd y beirniad wedi tynnu'r gerdd fawr yn ddarnau mân, a diofryd i beidio byth ag ymhel â barddoni eto a wnawn i y bore tywyll hwnnw. Ond y mae'n rhyfedd fel y mae clwyfau yn mendio, a buan yr aeth blynyddoedd o rigymun hapus heibio, nes i mi gael fy hun yn eistedd yng nghefn y Babell Lên yn Eisteddfod Môn yn Rhosybol. Y tro yma yr oedd fy ngherdd yn mynd i sgleinio yn dragwyddol loyw yn ffurfafen barddas fy nghenedl! Disgwyl yn eiddgar am i'r Prifardd parchus ganmol fy nghamp, ond wele eto siom. "Dyma ichi linellau ofnadwy," meddai, a dechrau cael hwyl ar ddyfynnu. Y babell yn ysgwyd i chwerthin y dorf. "Onid ydyw yn wych," meddai wedyn, ac ail-adrodd pennill arswydus arall. Minnau yn sleifio allan fel slywen a'm gwep cyn goched â 'ngwallt. Tyngu am yr ail waith na rown bennill ar bapur byth mwy. Eithr, fel ym myd serch, mae rhywun yn dal ati, er gofid, dad- rithio a siom. Dyma feddwl hwyrach y buasai gwell lwc yn Stedd- fodau'r De. Felly dyma drio eto. Cymryd amser a chyflyru fy hun i dderbyn ysbrydoliaeth bur yr Awen. Ceisio edrych yn debyc- ach i fardd, a chadw draw o siop Elis Barbar. Mynd i Woolworth i brynu papur teipio reit neis, a chael cyfaill gofalus i deipio y gân. Yna ei gyrru (rejistro hi wrth gwrs) i Wyl Fawr Aberteifi. Codi'n gynt bob bore fel y nesâi adeg y 'steddfod, i gyfarfod y posman. Methu cysgu'r noson gynt, meddwl bod y llythyr i'm gwahodd i lawr wedi mynd ar goll. Siom eto. Digio, a pheidio mynd i'r golwg. Gyrru am y feirniadaeth. 'Rwy'n ei thrysori. "Ni all yr ymgeisydd yma roi synnwyr yn ei waith. heb sôn am farddon- iaeth." Ond ar ôl gneud llw am y trydydd tro, fe drodd y llanw. Ac atgofion melys ar y cyfan sy'n aros wedyn.