Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YN IEUENCTID Y DYDD Pan dorrodd golau dydd ar fyd digwyn A dadorchuddio pryder noson oer, Fe siglai'r gwynt y dail ym môn y llwyn A dôi cymylau heibio'i guddio'r lloer; Codai yr haul o'i wely clyd drachefn Yn belen fflamgoch ar y gorwel pell, Ciliai'r oerias hefyd, yn ôl y drefn, A hedai'r tylluanod 'n ôl i'w cell. Ar doriad dydd y cerddodd Mair i'r ardd Ond rhaid oedd iddi droi oddiyno'n drist, Mewn gwisgoedd gwynion 'r oedd dau angel hardd Ym medd ei hannwyl Arglwydd Iesu Grist; Ond trodd ei thristwch yn llawenydd mawr Pan dorrodd arni wir Oleuni'r Wawr. DORA JONES. LLYTHYR Syr, Ar gais llu o gyfeillion a gyda chefnogaeth garedig ei weddw a'i ferch, addewais ddechrau ar y gwaith o olygu Cofiant i'r diweddar Gwenallt. Ni allaf byth gwblhau tasg mor fawr heb help 11u mawr o gyfeillion y bardd, ei gyfoedion a'i gynfyfyrwyr, ac hoffwn glywed oddiwrth unrhyw un a all gyfrannu-gydag atgof neu argraff o gyfnod plentyndod Gwenallt hyd ei farw. Mae'n siwr bod gan lawer o'ch darllenwyr ddeunydd a fyddai o ddiddordeb mawr. Os anfonant air ataf i gallaf eu sicrhau y trinir popeth gyda'r parch mwyaf ac os oes gan ryw- rai gopiau o lythyron, llawysgrifau neu luniau y gallwn eu ben- thyca, addawaf eu dychwelyd yn ddiogel gyda phob diolch. Hyderaf y caf glywed oddiwrth nifer dda o'ch darllenwyr er ceisio llunio Cofiant mor llawn ac mor deilwng byth ag sy'n bosibl. Yr eiddoch yn gywir, LYNN OWEN-REES 160 Pantbach Road, Rhiwbeina, Caerdydd.