Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

APEL GORSEDD Y BEIRDD gan Huw Davies (Huw Tegai) Trefnydd yr Arholiadau. Teitlau swyddogol "Yr Orsedd" neu "Orsedd y Beirdd" yw "Gorsedd Beirdd Ynys Prydain" a "Gorsedd yr Eisteddfod Genedl- aethol." Ei hamcan yw gwarchod arferion a defodau'r Beirdd, yn enwedig yn eu cysylltiad â'r Eisteddfod, a sicrhau cydweithrediad Beirdd, Llenorion, Cerddorion a phobl y Celfyddydau. Ei nôd yw datblygu, hyrwyddo a symbylu Barddas, Llenyddiaeth, Cerdd- oriaeth a Chelfyddyd yng Nghymru. Dyna'r rhesymau fod iddi le arbennig a thra phwysig yn nhrefniant a rheolaeth yr Eisteddfod Genedlaethol. Ei chyfrifoldeb hi yw gweinyddu seremonîau'r Orsedd yn yr Eisteddfod, a chadw cyswllt agos â'r Is-orseddau a sefydlodd. Prin fod eisiau cyfeirio at boblogrwydd mawr y pasiantri lliwus a threfnus a berthyn i'r Orsedd yn ystod wythnos yr Eistedd- fod a phan gyhoeddir Eisteddfod. Pensaer a chynhyrchydd y pas- iantri hwn yw ein Cofiadur a'r Dirprwy Archdderwydd, Cynan. Dyma ddywed ef yn ei Ragair i'r Arholiadau ym Maes Llafur yr Orsedd— "Y mae dau fudiad gwerin yn darparu'n arbennig ar gyfer y rhai sy'n awyddus i ymgydnabyddu mwy â phriod ddiwyll- iant y genedl. Y naill yw Dosbarthiadau Allanol y Brifysgol a'r W.E.A., a'r llall yw Arholiadau Gorsedd y Beirdd. Nid oes, ar hyn o bryd, ddolen gysylltiol rhwng y ddau sefydliad, ond os byddwch chwi — aelodau'r Dosbarthiadau Allanol a'r W.E.A. yn dymuno eistedd un o arholiadau Gorsedd y Beirdd, ac yn dweud hynny wrth eich athro ymlaen llaw, yr wyf yn siwr y cewch ganddo bob help. Gwn am athrawon mewn achosion o'r fath sy'n barod iawn i drefnu eu syllabus fel y bo'n cynnwys rhan helaeth o Faes Llafur yr Orsedd. Ar gyfer y rhai hynny sy'n awyddus i ddod yn aelodau o'r Orsedd y bwriadwyd Arholiadau'r Orsedd fel symbyl- iad i'w gwaith ac fel safon y gallant fesur eu cynnydd wrthi. A pha uchelgais deilyngach i blant gwerin Cymru nag ymgymhwyso yn yr efrydiau hyn modd y gallont ddod i mewn i Lys yr Eistedd- fod Genedlaethol trwy borth anrhydeddus Arholiadau'r Orsedd?" Fe basiwyd yn ddiweddar mewn cyfarfod o Fwrdd yr Orsedd i wneud apêl arbennig eleni am fwy o ymgeiswyr am aelodaeth trwy Arholiad. Ar sail y penderfyniad hwn felly y gwneir yr apêl hon atoch chwi sy'n aelodau selog a brwd o'r dosbarthiadau a