Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAE LLAWER IAWN MEWN ENW gan W. R. Owen (Bodwyn) Mae'n dipyn o gamp i bawb ond yr ifanc i ddringo'r llwybr a adwaenir fel y llwybr ZIG-ZAG ar bwys chwarel Dinorwig. Ond mae'n werth yr ymdrech. Dyma lwybr serth a chul o fân lechi llithrig a gerddwyd gan finteioedd o chwarelwyr ar eu ffordd i bonciau'r chwarel. Mae'n debyg nad oes neb yn gwybod yn awr pa bryd na phwy oedd y gwyr dyfal a'i gwnaeth-gan osod, yma ac acw ar yr ymylon, sedd o lechan fawr i eistedd arni ar eich ffordd i'r bonc gyntaf. Ac mae'n anhygoel meddwl am hen hen wyr fu'n cerdded y llwybr troellog ac yna ymlaen i'r clogwyni llethrog yn yr entyrchion. Ac ar ei ffordd i fyny cewch weld un o'r golygfeydd mwyaf godidog yn y byd-mynyddoedd Eryri yr ochor draw a llynoedd Peris a Padarn odditanoch yn sgleinio yn llygad yr haul. Mewn sgwrs â dau chwarelwr ar y bonc gyntaf syllem hefo'n gilydd ar ddynion yn smotiau bychain yn y gwaelodion ac ar y ponciau eraill uwch ben, ac yna dangoswyd imi siap pen merch dlos ar lethrau'r bryniau 'rochor arall i'r cwm. "Dyna," meddent, gan ymfalchïo, "The Lady of Snowdon." A phwy a ddyfeisiodd yr enwau rhamantus a roddir hyd heddiw i'r ponciau hynny? Pwy oedd y beirdd a'r gwyr o ddych- ymyg? Pwy a feddyliodd am ABYSSINIA fel enw ponc? Ai rhywun a fu yn Affrica ar ei hynt? Ai hiraeth a barodd i rywun roi yr enwau CALIFFORNIA, AWSTRALIA, NEW YORK a 'RAIFFT ar bonciau er côf am rywun o'r ardal a fu'n hel ei draed ar draws y byd ac a fu farw ymhell o'i fro? Hawdd deall VIVIAN ar ôl un o arolygwyr y chwarel. Ond pwy oedd ENID, MATILDA a MONA a HARRIAT a NEGRO a SWALLOW? A beth yw TOFFAT a SMIC WEMBLEY? Mae'n hawdd deall hefyd enwau lleoedd a fu'n gyfarwydd i drigolion Llanberis a Deiniolen. Llan- rug a Chwmyglo, enwau fel LERNION, PEN DIFFWYS, DYFF- RYN, PENRHYDD BACH a PHENRYDD ROWLAR. Ond ni fedrai neb esbonio ZINC BACH a BRAICH ZINC GALAD. Beth oedd yn cyfrif am PONC WYLLT a RALLT DDU? A rodd- wyd iddynt yr enwau hyn i gofio am rhyw drychineb neu ddamwain angheuol a ddigwyddodd rhywdro yn hanes y chwarel?