Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DETHOLIAD O MS. GEIRIADUR MAES A MOR YN CYNNWYS ENGHREIFFTIAU LLENYDDOL: (David Moelwyn Williams) NODIAD: Erys y gwaith hwn mewn teipysgrif. Fe gynnwys y gyfrol rai miloedd o enwau cefn gwlad ynghyd ag enwau beirdd a myneich yr Oesau Canol ar flodau, coed, adar gwylltion, etc., a thros 600 o enghreifftiau llenyddol. Pigion a geir yma o wahanol adrannau o'r llawysgrif. (Detholiad Adran "Anifeiliaìd") Alligator—afanc. ("yr afanc er nad yw yn greadur priodol i'r mor eto y mae'n per- thyn i'r dwfr cystal a'r tir. Mae'r afanc yn agos i bedair troedfedd o hyd. Afancwn ydynt o amryw liwiau. Trysorfa Gwybodaeth). (eto)-Mae'r ysgol ddiflas yn agos a'm nychu fi. Prìn caf oedfa i fwyta fy mwyd ganddynt ac fel tynnu afanc o lyn, yw ceisio eu gwastrodedd.Goronwy Owen. A ntelope-gafrewig. A pe--epa. (Oherwydd llongau Tarsis oedd gan y brenin ar y môr gyda llongau Hiram. Unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis yn dwyn aur ac arian ac ifori, ac epaod a pheunod.-Br. 1.10.22). A ss-asyn. ("Yr asyn a gododd ei droed ar arffed ei feistr." — Goronwy Owen). A ss (foal оf)—ebol asyn. (Wele yma dy frenin yn dyfod gan eistedd ar ebol asyn.-St. Io. 12, 15). Badger-y pryf penfrith, mochyn daear, daearfochyn. (Mi a'th wisgais hefyd â gwaith edau a nodwydd, rhoddaist i ti hefyd esgidiau o groen daearfoch.-Es. 16, 10). Bear-arth. (Cyfarfyddaf a hwynt fel arth wedi colli ei chenawon, rhwygaf orchudd eu calon hwynt ac yna fel llew y difaf hwynt; bwystfil y maes a'i llarpia hwynt.-Hos. 13, 8).