Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAI R O RHOSLAS gan Raymond H. Rochelle Os edrychwn yn ôl drwy ein Hadroddiadau Blynyddol, fe sylwn mai ychydig iawn o ddosbarthiadau ar Wyddoniaeth a gyn- haliwn yng Ngogledd Cymru o flwyddyn i flwyddyn­llai na rhyw 6 y cant. Pan soniwn am ddosbarthiadau Gwyddonol meddyliwn am bynciau fel Seryddiaeth, Daearyddiaeth a Daeareg, Bioleg, Swoleg, Hanes Natur, Hanes ac Athroniaeth Gwyddoniaeth, Ffiseg a Chemeg, etc. Traddodiad y W.E.A. yw ceisio cynorthwyo pobl i ddeall eu cymdeithas, a'u hamgylchoedd. A ydyw hyn yn wir erbyn heddiw, o sylweddoli mor fychan ydyw ein diddordeb yn y byd sydd wedi datblygu cymaint yn dechnolegol a gwyddonol? Onid yw yn amhosibl i ni ddeall ac amgyffred hyd yn oed prob- lemau economaidd a chymdeithasol heb wybod llawer mwy am wyddoniaeth a thechnoleg? Hwy sydd, erbyn hyn, yn ein harwain i gyfoeth materol, ac o bosibl i dlodi moesol a dinistr enfawr. Meddyliwch am y car, y grym atomig a chompiwters. Fe sylweddolir yn syth fod rhaid eu rheoli nhw i gyd os ydym am osgoi byw fel llygod mewn drwm. Nid yw'n bosibl datrys prob- lemau cymdeithasol heb y gwyddonydd a'r peiriannydd. Meddyl- iwch am y prinder bwyd sydd yn y byd, am Economi Prydain, neu ddiogelu harddwch y wlad, yma eto gwyddoniaeth yw'r allwedd. Mae ein haddysg yn dod i ddibynnu fwy fwy ar wyddoniaeth gyda'r fathemateg newydd a'r peiriannau dysgu. Erbyn hyn cyd- nabyddir mai cynnyrch a champwaith gwareiddiad y Gorllewin yw gwyddoniaeth, a chaiff hyn ddylanwad amlwg ar ein syniadau ac ar ein celfyddyd. Mae yna wrth gwrs rai anawsterau i gynnal dosbarthiadau Gwyddonol, fel prinder labordai ac offer pwrpasol. Anhawster arall yw'r grêd fod rhaid cael cefndir o wybodaeth mathemateg. Ond y ffaith yw nad oes angen y pethau hyn i gael gafael ar lawer pwnc gwyddonol. Yn ddiweddar trefnais gyfres o Ysgolion Pen- wythnos yn Rhyd-y-Creuau, Betws-y-Coed, ar y pwnc Deall Gwlad Eryri," a chafwwd darlithoedd ar "Y Tywydd yn y Gorffen- nol a Heddiw," "Daeareg Lleol," "Gwaith yr Afonydd a'r Môr," "Rhai Rhesymau am wasgariad Planhigion ac Anifeiliaid y Fro. Cynhaliwyd dosbarthiadau ar "Fywydeg a Dyn," a "Bywydeg Dwr Glân" i grwp o bysgotwyr, a chwrs ar "Ddaeareg a Hanes Natur"