Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU gan Emrys Roberts LLWCH OGED." Gan Vernon Jones. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. 7/6. Dyma'r gyfrol gyntaf o gerddi gan y bardd ifanc talentog hwn. Daeth ei awen a'i ddawn fel adroddwr yn amlwg mewn llawer eis- teddfod yng Nghymru, ac y mae ei fynegiant bob amser yn loyw. Un siom a gefais yn y llyfr-nad oedd dim yn y mesurau caeth ynddo, a minnau'n gwybod am ei ddawn fel englynwr da. Gobeith- io y cawn beth o'i waith graenus ar gynghanedd yn ei lyfr nesaf- yr wyf yn ffyddiog y bydd hwnnw yn ymddangos cyn bo hir. Nid oes yn y gyfrol hon ymgais at glyfrwch na gwneud strôc, ond y mae yma y peth prin a gwerthfawr hwnnw-gwreiddioldeb. Y mae rhywbeth agosatoch a chynnes yn y cerddi i gyd. Fe ddylai y llyfr hwn fod yn boblogaidd iawn, ac y mae yma gyfle i adroddwyr i gael cerddi newydd a ffres i'w hadrodd mewn eisteddfodau. Y mae'r bardd yn delynegwr sy'n cyffroi, ac yn sonedwr praff. Er nad oes yma dywyllwch, y mae mwy o ogoniant yn dod i'r golwg o hyd wrth ail-ddarllen ei gerddi gorau megis 'Cau' a 'Crefftwyr'. Y mae yma artist geiriau gonest wrth ei waith, yn dewis yr ansodd- air gorau wedi hir fyfyrio, ac mae'r llinellau byr a'r penillion cryno yn dangos ôl disgyblaeth a didoli. Sylwais ar ambell nam, — ai 'wres' sydd i fod yn y gan 'Y Ganllaw'?. Y mae yma hiwmor, a chydymdeimlad dwfn a'r bobl gyffredin. Y mae'n feistr hefyd ar fesur yr hen benillion, fel y dengys ei gerdd "Lliwiau." Hoffwn weld mwy o gerddi tebyg i "Gobaith" yn ei lyfr nesa'. Y mae'r emyn diffuant ar y diwedd yn glo teilwng i gyfrol dda. A diolch am gyfrol nad oes raid ymlafnio fel uwchben croesair anodd cyn gweld ei gwerth. Mae'r Rhagair gan y Prifardd R. Bryn Williams yn ddiddorol a gwerthfawr dros ben, ac y mae graen ar waith Gwasg Gomer. ‘ ‘ NERAIG." gan W. R. P. George. Llyfrau'r Dryw. 10/6. Cyfrol o gerddi a luniwyd yn y cyfnod 1943-68 yw hon. Dywed yr awdur yn ei Ragair gwerthfawr: "Yr awen i mi yw clywed y Neraig yn y distawrwydd" — sŵn y môr a'r gwynt o gylch y creigiau a'r traeth ger Cricieth. Mae yma gerddi yn y mesurau