Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Cwrdd Chwarter (Call)". "8. Nad ydym yn credu mewn Tân Uffern ond ein bod yn atgofio'r ysgrifennydd ei fod i roi acen gron ar "Sêt" wrth gyfeirio at y Sêt Fawr yn ei adroddiad. Hoffais yn fawr y darn "Cyfrinach y Beirdd" — "Dyhead mawr dyddiau fy ieuenctid oedd medru cyfansoddi darn â semicolon ynddo." Y mae y "Dyrnaid o Gerddi" a "Hanes Plwyf Llandigwydd" yn glo bendigedig i lyfr sydd yn well na photel ffisig neu donic os y bydd i chwi syrthio yn brae i'r ffliw bondigrybwyll y Gaea yma. Gwnaeth Llyfrau'r Dryw waith neilltuol 0 lân ar y llyfr bywiog yma. "CERDDI DIFYR FR PLANT." Gan Margaret Roberts a Gwynn Ellis. Gwasg y Brython. Pris ? Llyfryn hwylus iawn i ysgolion, ac fel athro, 'rwy'n croesawu unrhyw gyfrol o'r math yma. Gellid fod wedi cael iaith mwy ystwyth a symlach weithiau, a gwneud heb eiriau fel "orig" a phethau fel 'N cyrchu'n," "pellennig," "diderfyn," etc. Ond ar y cyfan y mae testunau y caneuon a'r miwsig yn sicr o apelio at blant, a'r ddwy gân actol ar y diwedd yn dderbyniol. Dyma lyfr sy'n haeddu cefnogaeth. A diolch am gyfrol i blant heb fod yn llawn o nonsens naîf Cymraeg Byw-peth nad yw yn Gymraeg nac yn fyw,—ddim yn ein rhan ni o'r wlad beth bynnag. Adolygiad gan E. J. Dalis-Davies, Caerfyrddin. "EISTEDDFODAU CAERWYS." Gwyn Thomas. Gwasg Prif- ysgol Cymru, 1968. Yn ei ragymadrodd mae Gwyn Thomas yn cydnabod ei ddyled i arbenigwyr maes astudiaeth y gyfrol hon. Mae'n rhaid i ninnau gydnabod yn ddiolchgar iawn ei lafur ef yn casglu'r deun- yddiau ynghyd o'r meysydd toreithiog a rhoi i ni sgubor lawn o wybodaeth yn y llyfr hwn. Mae'r cefndir cyffredinol yn gyfarwydd i amryw ohonom ni. Ar waetha teitl y llyfr fe gawn ynddo wybodaeth fanwl iawn ynghyd â darlun cartrefol tuhwnt o hynt a helynt cyfundrefn y beirdd ymhell cyn yr unfed ganrif ar bymtheg ac wedi hynny. Allwn ni ddim llai na theimlo grym y newid a ddigwyddodd i fyd y bardd yn y canrifoedd hyn-fe ddiflannod y nawdd ac fe heriodd