Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR Cyf. XXIV 1969 Rhif 4 NODIADAU GOLYGYDDOL (GERAINT WYN JONES) Y mae un yn teimlo fel un wedi derbyn plentyn a fagwyd am nifer o flynyddoedd gan eraill. Fe fu Mr. David Thomas yn dad da i Lleufer am lawer o flynyddoedd, ac yr oedd ei ym- roddiad yn ddiarhebol. Fe fu Edward Williams yr un mor ymroddgar, a dagrau pethau yw iddo gael ei orfodi (am resymau meddygol) i roi'r gorau iddi. Dyma pryd y cynigiwyd yr arr- cdifad i mi. Fy adwaith i'n syth oedd fod oes y cylchgrawn un dyn wedi mynd heibio. Fe ddangosodd llwyddiant Y Traethodydd hyn i ni. Y mae angen dau neu dri i gyd-weithio, a'r rheiny, os yn bosib, yn dod o wahanol rannau o'r wlad. Fe gytunodd gwarch- odwyr Lleufer fod croeso i mi hel tîm at ei gilydd, ac fe es ati yn ddiymdroì. Cydsyniodd y Dr. Cyril Parry a Hywel Teifi Edwards â'm cais yn syth, ond teimlai'r ddau fod angen i un ohonom fod yn gyfrifol am y polisi cyffredinol, rhag i bethau fynd yn rhy glytiog, ac hefyd i fod yn gyfrifol am dderbyn llyfrau i'w hadolygu. Dyna'r unig reswm fod fy enw i wrth ochr y teitl-Golygydd. Yr oeddwn i'n awyddus hefyd i gadw Mr. Arthur Thomas yn y tîm. Y mae ganddo brofiad helaeth o'r gwaith, a llygaid barcud am gamgymeriadau orgraff. Mae barcudiaid fel hyn yn brin ac amhrisiadwy. Yn garedig iawn fe gytunodd yn syth, gan bwys- leisio fodd bynnag nad oedd yn dymuno ymboeni ynghylch cynnwys y cylchgrawn. Dyma paham y gelwir ef yn Is-Olygydd. Wrth ysgrifennu pwt o lith fel hon roedd llygoden o gwestiwn bach yn mynnu dod allan o'i thwll a gofyn-beth ydy swydd- ogaeth cylchgrawn fel Lleufer? Y mae, wrth gwrs, yn gwestiwn teg, yn enwedig gan fod syrffed o gylchgronau yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn,-cylchgronau llenyddol, athronyddol, gwydd- onol, diwinyddol, a chylchgrawn yn delio â materion y dydd. Paham mynd i drafferth i gyhoeddi un arall? Ac os cyhoeddi beth yw ei faes?