Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ASBRI GWENALLT (HYWEL EDWARDS) Fe fu olwynion ein diwydiant gwerthfawrogi ac atgofioni'n hymian yn ddi-daw ar ôl marw Gwenallt, a does dim rhaid bod yn broffwyd i ragweld mai dal i droi y byddan nhw am sbel go hir eto. Diolch am hynny dyma fardd na all y Gymru hon fforddio gwybod rhy fach amdano. Iawn fydd i swmp o sgrifennu defosiynol-ddwys a beirniadol-edmygol gasglu'n gynyddol o'i gylch. Ta waeth, nid awydd i brysuro'i apotheosis sy'n fy ngyrru i i fentro dweud tipyn amdano. Rwy'n cofio'n rhy dda ei olau- coch o wên pan fynnai fod amryw bobol yn croesawu tranc llenor­ "Mae'n nhw'n credu y gallan nhw i drin e'n saff wedyn." Na, cofio'r munudau prin (rwy'n damnio heddi iddyn nhw fod mor brin) o hwyl ges i'n ei gwmni gododd whant arnaf i fwrw ffyrlling i goffor ei glodydd. Trafoded eraill gyfraniad Gwenallt i'r bywyd Cymraeg. Roedd yn ewyrth imi trwy briodas ond er imi fyw o fewn pymtheng milltir iddo er dydd fy ngeni, does gen i ddim cownt i fì siarad ag ef erioed tan i fi fynd i'r Coleg yn Aberystwyth. I bob pwrpas dyn dierth hollol oedd e ifi pan safodd gyntaf o'n blaen yn yr Ystafell Gymraeg, ei ddwy droed fach ynghyd, ei ddwylo ymhleth o'i flaen, yn dei-bwa a gwn, a gwên i gyd, i fwrw golwg ymholgar dros ei gywion diweddaraf. Ac am y tair blynedd dilynol, am resymau digon amlwg, 'ches i ddim mwy o'i amser na'r un myfyriwr arall. Nid nes ifi ddechrau ymchwilio tano y des i wybod am yr hwyl oedd i'w gael yn ei gwmni. Trysoraf, fwy na dim, f'atgofion am wythnos gron a dreul- iais gydag ef ym Mangor, efô ar drywydd Ceiriog, minnau'n poeni llwch yr hen Greuddynfab. Ar y ffordd i'r North, ymhell cyn cyrraedd Dolgellau, roedd ym mherfedd helyntion Talhaiarn, Ceiriog, Llew Llwyfo ac Edith Wynne, a deallais bryd hynny'n fendigedig o glir nad swil oedd pob Robin yng nghylchoedd cyngherddol Cymru Fictoria. Bloedd sydyn, "Nefoedd fawr; Thomas Charles be ddiawl yn ni'n gneud yn y Bala." Troes y car rownd yn y fan a'r 11e a bwrw nôl am y Bermo, a byth er hynny bu'r troi rownd hwnnw'n y Bala ifi'n ddelwedd orchfygol o enciliad ein digrifwch priddlyd braf yn wyneb ein piwritaniaeth peidiwch-er-mwyn-popeth.