Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DATBLYGIADAU DIWEDDAR MEWN LLYWODRAETH RANBARTHOL (CYRIL PARRY) Yr elfen amlycaf yn natblygiad llywodraeth ranbarthol ym Mhrydain yw datganoli gweinyddol. Erbyn heddiw y mae brodwaith o sefydliadau rhanbarthol yn rhan o'n cyfundrefn wleidyddol. Datblygodd adrannau gweinyddol y llywodraeth ganolog eu patrwm o swyddfeydd a phwyllgorau ymgynghorol rhanbarthol. Gweinyddir amryw o wasanaethau arbennig, megis ysbytai, gan awdurdodau rhanbarthol apwyntiedig. Cyflogir y mwyafrif i'r gwasanaeth sifil y tu allan i'r brif-ddinas lle ceir prif swyddfeydd y llywodraeth. Bu i'r Llywodraeth Lafur, drwy bwysleisio fod twf economaidd y wlad yn dibynnu ar gydbwysedd rhanbarthol, ddatblygu sefydliadau newydd megis y Cynghorau Cynllunio Economaidd rhanbarthol. Un agwedd arbennig ar y broses hon oedd ehangu cyfrifoldeb y Swyddfa Albanaidd a sefydlu Swyddfa Gymreig. Datblygiad ohoni fyddai dileu yr Adran ar Faterion Economaidd a sefydlu adran newydd i ymdrin â materion rhanbarthol. Fe dyfodd y gyfundrefn gymhleth hon o sefydliadau rhanbarthol oherwydd bod datganoli gweinyddol yn rhan anorfod o dechneg llywodraethu'n effeithiol mewn gwlad ddiwydiannol fodern ni fedr llywodraeth benderfynu na gwein- yddu polisi heb ymgynghori ag awdurdodau rhanbarthol a sefydlu peirianwaith gweinyddol yn y rhanbarthau. Y mae datganoli gweinyddol hefyd yn adlewyrchu un o elfennau cryfaf yn y diw- ylliant gwleidyddol Prydeinig-sef hawlio safon cyfartal yng ngwasanaethau'r llywodraeth ym mhob rhan o'r wlad. I bob pwrpas y mae'r broses hon yn cynyddu awdurdod y llywodraeth ganolog tu fewn i gyfansoddiad gwleidyddol sydd ymysg y rhai mwyaf canolog yn y byd. Prin fu'r elfen ddem- ocrataidd yn sefydliadau rhanbarthol Prydain. Prin, hefyd, fu'r ewyllys i ddatganoli awdurdod gwleidyddol mewn gwlad fechan ei maint a cheidwadol ei diwylliant gwleidyddol, fe roir pwyslais arbennig ar undod gwleidyddol. Yn wyneb hyn oll bu rhaid i bob dyhead am weriniaeth leol ym Mhrydain fodloni ar gyfundrefn o lywodraeth leol na fwriadwyd erioed iddi weith- redu fel sustem ranbarthol, tra bu cefnogwyr rhanbartholdeb yn ofer hela gan esgeuluso agweddau gweinyddol eu damcaniaethau