Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dim ond ffwl a fyddai'n rhoi cynnig ar ddiffinio beth yw'r gwahaniaeth rhwng rhyddiaith a barddoniaeth. Mae'r pwnc yn un eithriadol o gymhleth ac y mae'n llawer haws i rywun deimlo'i ffordd yn y tir dieithr Ue mae'r gwahaniaeth na mynd yno efo twmpath o labeli i'w taro nhw hwnt ac yma. Eto y mae yna wahaniaeth sydd yn y pen draw'n hidlo drwy'r cymlethdodau yn argyhoeddiad sicr a syml fod y naill beth yn farddoniaeth, a'r llall yn rhyddiaith. Mae'n siwr fod rhywfaint o wahaniaethau ynghylch yr argyhoeddiadau hyn mewn gwahanol bobl, yn enwedig lle mae barddoniaeth ddiweddar yn y cwestiwn. Felly wrth geisio codi arwyddion i geisio dangos y cyfeiriad yr wyf fi fy hun yn symud, 'dwyf fi ddim dan orfodaeth i blesio pawb. Eto, 'rydw i'n hoffi meddwl fod yna rywbeth amgenach na mympwy bersonol ar waith yn y codi arwyddion hyn, a bod chwaeth a fagwyd trwy ganrifoedd o farddoniaeth a chan wahanol bobl yn llunio rhyw fath o argyhoeddiad gwrthrychol. Hynny yw, y mae rhywun dan ddyled i'r farddoniaeth o'r gorffennol y mae wedi'i darllen. Eto, o'r presennol y mae pob egni'n dod, ac y mae'r egni hwnnw'n gweithio ar yr etifeddiaeth a dderbyniwyd ac fe all ei newid. Yn wir, tuedd ein presennol ni yw gwrthod y gorffennol; ond y mae'n rhaid gwybod amdano cyn y gellir ei wrthod. Y cwbl a wnaf fi'r tro hwn yw dyfynnu rhai darnau, a gofyn i'r darllenydd ystyried prun o'r rhain sydd, yn ei farn ef, yn farddoniaeth. Mi rof innau fy marn wedyn a cheisio rhoi rhesymau drosti. A. 'A.r stesion Caer y gwelais ef, a mi ar y pryd yn crwydro'r platfform yn aros am y trên hanner nos. Gwr bonheddig diwylliedig, tawel, enciliedig. Eithr yr oedd sibrwd ei fod YSTYRIED RHYTHM (GWYN THOMAS) ydoedd yn gyffrediu,