Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A'r hyn yr wyf yn gobeithio fod y darnau hyn wedi'i wneud yw peri i'r darllenydd ystyried rhan hanfodol rhythm mewn unrhyw farddoniaeth, bod yn y rhythm hwnnw duedd at batrwm a threfn, a bod rhythm yn cyfrannu'n bendant at yr ystyr mewn barddoniaeth neu ryddiaeth ag ynddi osgo at farddoniaeth. (Sumbol yw w'am sillaf ddi-acen. Golyga sillaf acennog). ( l'w barhau.) (JOHN LLEWELYN WILLIAMS) Hen Dal Llan -distadl a Uwyd, A diolud ei aelwyd Mor angerddol yn moli Am hael ran-am haela Ri Eilun nef­ei galon oedd Yn burach na'r aberoedd Newydd blê ei weddi blaen, Ias eilfyd iddi'n sylfaen Huddo hwyl angerddolach Wnai'r porthi'n y festri fach. Ac eirias rym gras yr Iôr A gafwyd yn dygyfor- Rhoddai'r angerdd a'r ingoedd Newydd gân i'r weddi goedd— Ar enaid yr awr honno Daethai hud ei fendith O­ Awr â'r Iôr yn ei heuro Hawddfyd yw ei wyddfod O. PORTREAD