Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS (R. H. ROCHELL) Wrth gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ar gyfer Pwyllgor Russell, sy'n gwneud ymchwiliad cynhwysfawr i gyfundrefn Addysg Oedolion, ac a fydd yn rhoi argymhellion gerbron y Llywodraeth Ganolog i'w hail drefnu, trawyd fi gan y chwiw hanesyddol. Bum wrthi'n turio yn ein hadroddiadau blynyddol, a chwestiynnau yn codi fel lie roedd ein cryfder (a'n gwendidau) yn y dyddiau cynnar ? Pwy oedd yn mynychu ein dosbarthiadau? Faint o newid fu yn niddordeb ein hefrydwyr yn y pynciau a astudir yn ein dosbarthiadau, ar hyd y blynyddoedd? Yn fras, beth yw patrwm ein datblygiad ? Fe sefydlwyd Rhanbarth Gogledd Cymru o'r WEA yn y flwyddyn 1925. Yr oedd dosbarthiadau a changhennau o'r WEA wedi eu sefydlu cyn hyn wrth gwrs gan fod y WEA, y Prifysgol- ion a'r Pwyllgorau Addysg Lleol wedi bod yn arloesi tipyn, er dechrau'r ganrif. Sefydlwyd Cangen WEA yn y Barri yn 1906, a dechreuodd R. H. Tawney y dosbarth tiwtorial cyntaf yn Wrecsam yn 1908 o dan nawdd Prifysgol Rhydychen. Sefydlwyd Rhanbarth Cymru o'r WEA yn 1910. Yn ystod 1910-11 sefydlodd Coleg Prifysgol Bangor ei ddosbarth tiwtorial cyntaf ym Mlaenau Ffestiniog dan hyfforddiant y diweddar Brifathro J. F. Rees. Y flwyddyn ganlynol dechreuodd Robert Richards fel tiwtor amser llawn. A dyma ni yn 1925-26 gyda changhennau yn Wrecsam, Bangor, Bae Colwyn, Conwy, Caergybi a Blaenau Ffestiniog. Parhaodd y rhain i gyd yn ganghennau hyd heddiw heblaw Bangor a Chonwy. Dyma ddosbarthiad o'r pynciau y flwyddyn honno Astudiaethau Cymdeithasol 25 Hanes a Llên Cymru 8 Astudiaethau Rhyngwladol 2 Cerddoriaeth 2 Daearyddiaeth 1 Hanes 1 Crefydd 1 Gwyddoniaeth 1 Amrywiol 1 42