Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O GOLEG HARLECH (IEUAN HUGHES) TYMOR 1968-69 Ddechrau tymor y Gaeaf fe gychwynodd 58 ar eu hastud- iaethau ar gyfer Diploma Prifysgol Cymru mewn Astudiaethau Cyffredinol Cwrs newydd sbon yw hwn, ac yr ydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld sut y bydd pethau'n datblygu. Bellach y mae dewis pendant gan y myfyrwyr pan ddônt yma. Gallant un ai dewis cwrs blwyddyn heb unrhyw arholiad ar ei gyfyl mae naw ar hwn-neu'r cwrs diploma Y mae'r rhai sydd ar y cwrs cyffredinol fel arfer ychydig yn hvn na'r gweddill ond y maent yn elfen bwysig yn y Coleg Er ein bod wedi derbyn mwy o geisiadau am leoedd nag erioed, roedd nifer y myfyrwyr yn is nag a ddisgwylid gan fod mwy nag arfer wedi tynnu'n ôl-nifer ohonynt oherwydd anaws- terau gyda grantiau. Y rhif yn y diwedd oedd 101, ac o'r rhain roedd 23 yn ferched, ac roedd 9 o wledydd tramor. Fe ddaeth tri darlithydd newydd yma ar ddechrau'r tymor. Un i ddysgu Llenyddiaeth Saesneg, a'r ddau arall i ddysgu- Llywodraeth, a Pherthnasedd Diwydiannol. O'r blaen, fel rhyw is-raniadau o bynciau eraill yr ystyrid y ddau bwnc olaf. Bellach enillasant eu plwyf yn Harlech. Yn ystod y flwyddyn fe gasglwyd tua hanner yr arian y mae ei angen arnom, drwy apêl gyhoeddus I fod yn fanwl, fe ddaeth dros £ 100,000 i law. Y mae'r neuadd breswyl newydd yn barod bellach ac y mae wedi gweddnewid bywyd y myfyriwr yn Harlech. Fe gofir am 1969 felly fel carreg filltir arbennig yn hanes Coleg Harlech.