Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU "Y STAFELL DDIRGEL." Marion Eames, Llyfrau'r Dryw, 1969. tt.184. 21/ "Peth rhyfedd ydy cariad at fro, Marged EUis" dyna a ddywaid Siôn ap Siôn, Apostol y Crynwyr yng Nghymru, wrth Marged, ail wraig Rowland Ellis, Brynmawr, yn y nofel hon. A dyna un peth a'm trawodd am yr awdur ei hun-ei hoffter o fro ei maboed yn Nolgellau'a'r cylch lle mae'r nofel wedi ei lleoli. Edwyn y fro'n drylwyr ac y mae wrth ei bodd yn ei disgrifio "yn y glaw, yn y niwl, yn yr heulwen, yn y tywyllwch," ac yng ngwahanol dymhorau'r flwyddyn. Ac y mae hynny'n beth hyfryd. Nofel hanes ydyw-am helyntion Crynwyr Dolgellau, a'r erlid a fu arnynt, hyd y flwyddyn yr aeth Thomas Owen drosodd i Pennsylvania ar gais Rowland Ellis (neu, 0 leiaf, gyda'i ganiatâd) i edrych ansawdd y wlad. Ceir yma bortread byw a chofiadwy o fywyd garw yr oes honno a'i harferion-llawer ohonynt yn gwrs ac anwaraidd i'r eithaf. Rowland Ellis ei hun yw'r prif gymeriad, ac yn naturiol daw Crynwyr eraill yr ardal i mewn i'r stori­ pobl fel Robert Owen, Dolserau, ac Ellis Puw, heb sôn am wyr fel Thomas Lloyd, Dolobran, a John ap John, neu Siôn ap Siôn fel y gelwir ef yma (ac fel y geilw Ellis Puw ef yn Annerch i'r Cymru). Ceir crynodeb hwylus o yrfaoedd y gwyr dewr hyn yn Y Bywgraffiadur, ond fe'u gwisgir â chnawd ar dudalennau'r nofel hon a rhoddir anadl einioes ynddynt. Hyd y gwn i, ni lithrodd yr awdur o gwbl ar bwynt o hanes. Y mae'n delio a rhai pethau pur ddiddorol; er enghraifft, perthynas y Crynwyr a oedd yn Gymry Cymraeg â'u brodyr Saesneg ac â'r Crynwyr o Gymry a siaradai Saesneg yn rhwydd (megis Lloydiaid, Dolobran). 'Roedd "problem yr iaith" yn un gwbl gyfoes i'r Crynwyr Cymraeg y dwthwn hwnnw. Ac y mae sylw Marged Ellis, wrth weld Thomas Owen a'r lleill yn cychwyn o harbwr Aberdaugleddau, yn drist o wir "Mae rhin ein bro ni ar fwrdd y llong yna." Dyna grynhoi tristwch pob ymfudo. Fy nghwyn bennaf yn erbyn y nofel yw'r gwallau iaith sydd ynddi, ac y mae'n drist dweud hynny am nofel sy'n llwyddo mor dda i bortreadu pobl a chyfnod mor ddiddorol, ac yn llwyddo hefyd i greu awyrgylch aelwyd Brynmawr, rhialtwch ffair yn