Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyfrinach mai'r gynghanedd ei hun sy'n werth trafferthu â hi, ac nid y mesurau. Dyma fardd sy'n ein cyffroi a'n difrifoli- nid barddoniaeth braf, ffwrdd â hi sydd yma. Er mor ddiffuant yw yr ychydig englynion sy ganddo, mae'n well gen i o yn y cerddi lIe mae'n canu yn ei ffurf a'i arddull ei hun. Dyma gyfrol sydd yn atebiad pendant i'r rhai a gred na ellir canu yn gofiadwy ar gynghanedd yn ein dyddiau ni. Dyma yn sicr gyfrol gan fardd o bwys yng Nghymru heddiw. Nid yn aml y cawn gerddi gan fardd ifanc sy'n ein denu i'w darllen lawer gwaith, gwaith sy'n cyffroi'r dychymyg megis-HOnd Cariad Pur," "Brau" a "Bywyd." Croeso i ryferthwy o fardd. Argraffiad glân a hardd. "CHWANT CHWERTHIN." Peter Hughes Griffiths. Dryw. Dywed yr awdur mai un pwrpas yn unig sy i'r llyfr, sef rhoddi deunydd i'w berfformio mewn nosweithiau llawen ac yn y blaen­’i godi hwyl y cwmni.' Ac yn wir fe ddylai fod o werth mawr felly, gyda'r caneuon ysgafn a digri ar alawon poblogaidd, a darnau amrywiol i ddau neu dri, a deunydd arall i bartion. Y mae yr operâu ysgafn hefyd yn wych dros ben. Gwn drwy brofiad mor anodd yw cael cân neu sgets neu ddeuawd newydd mewn clwb neu Aelwyd, ac fe ddylai llawer gwahanol fath o gymdeithas elwa ar waith dawnus yr awdur hwyliog hwn. Bydd chwerthin iach o wrando ar "Darllen Ffortiwn" a'r "lane." Y mae'r llyfr yn gorffen yn effeithiol dros ben gyda'r pantomeim "Dic Witin Jones." Yn sicr y mae angen digonedd o bethau fel hyn. Os cawn ni chwerthin yn Gymraeg, bydd llai o sôn am dranc. "HIGH HERITAGE." A. G. Prys Jones. Christopher Davies. 12/6. Dyma lyfr o gerddi Saesneg gan hen law. Fel y dywed Syr Ben Bowen Thomas yn y Rhagair, cerddi i'w mwynhau a'u cyd-adrodd gan blant yw'r rhain. Y mae yma ddigon o sôn am wlad, hanes a thraddodiadau, ond nid wyf mor siwr a yw'r dull