Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

u ganu yn mynd i apelio at blant yn gyffredinol. Y mae yma beth hiwmor ac fe ddylai y rhannau hyn ogleisio'r to ifanc. Mae'r awdur yn ein paratoi trwy ddweud mai dull syml ac ysbryd rhamantaidd sydd i'r gwaith — mae'n amlwg nad yw'n hoff iawn o'r "advanced modern verse." Ond fe fuaswn i yn tybio bod llawer o'r cerddi yn rhy anodd i blant yr ysgolion cynradd, hyd yn oed yn y dosbarthiadau uchaf. Y mae eisiau amrywiaeth testun ac arddull i gyffroi dychymyg plentyn, ac yn sicr mae eisiau ymdrechu i fynd i'w fyd. Y mae yma er hynny rai cerddi gwych dros ben. Hoffais Dick Fisherman a Winter Woods yn fawr iawn. Er y gwendidau, yr wyf yn gobeithio y bydd i'r llyfr fod yn gymorth i blant di-Gymraeg ein hysgolion eilradd i fwynhau a gwerthfawrogi hanes rhai o arwyr Cymru. Y mae'r elfen ddramatig yn beth da a derbyniol mewn llawer o'r cerddi. Gwelais ambell wall fel "North Walain." "JAMAICAN LANDSCAPE." R. Gerallt Jones. Christopher Davies. 15/ Cyfrol o gerddi yn y gyfres" Poets of Wales" yw hon. Gwydd- om am ddawn yr awdurjel bardd a llenor Cymraeg, a dyma ffrwyth cyfnod o waith yn Jamaica. Drwy sgwennu yn Saesneg, fel y dywed ef ei hun, y mae cyfle i'r Uu ffrindiau a wnaeth yno fwynhau a gwerthfawrogi ei lafur. Ac yn wir y mae hon yn gyfrol ardderchog, ac yn dangos dawn sicr yr awdur fel bardd o'r radd flaenaf. Nid yw'n afradu geiriau, ac y mae ei gerddi yn dangos i ni wir artist ar waith yn dethol ac yn mynegi yn loyw. Y mae tyndra a thensiwn mewn cerddi fel He and I, ac y mae'r cysylltiadau rhwng Cymro â dyn tywyll ei groen yn gofiadwy yn y gerdd Chameleon Man. Y mae'r profiadau a gafodd wedi eu mynegi'n gain a newydd, ac mae ei gymariaethau mewn cerdd fel North Coast, a'i ddawn i greu darlun byw fel yn Cochroach yn werth aros yn hir uwch eu pennau. Croeso mawr i gyfrol ffres a chyffrous ei themâu a'i thriniaeth. Y syndod mawr i mi yw fod yr awdur yn medru bod mor effeithiol yn y ddwy iaith. Efallai nad yw'r ychydig gerddi olaf yn ei ddangos ar ei orau, ac onid oes eco o gân a gafwyd ganddo yn Gymraeg yn y gerdd On seeing an old manì Y mae un gân yn arbennig yn loetran yn y cof-Of a boy and his Teacher. Perl o lyfr.