Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"DYDD Y FARN AC YSGRIFAU ERAILL" T. J. Morgan. Dryw, 12/6. Y mae dawn yr awdur fel llenor yn hysbys i bawb, ac mae'r llyfr hwn yn dangos ôl myfyrdod ar yr hyn a welodd mewn bywyd, a'r cwbl wedi ei grisialu i bedair-ar-ddeg o ysgrifau da. Y mae arddull a gloywder mynegiant yr awdur yn ein denu ac yn cadw ein diddordeb bron yn ddieithriad. Hanes crwydro rhai o'r gwledydd pell ar wyliau yw sail llawer ohonynt, ac y mae'n amlwg iddo giwydro, â'i lygaid a'i feddwl yn barod am bethau diddorol i'w trysori. Ni hoffaf rai o'r brawddegau hir, tua dwsin neu fwy o linellau weithiau, ac un yn y dechrau yn un-llinell-ar- bymtheg. Y maent yn mynd â'n gwynt braidd. 'Ni allaf chwaith ddygymod â phethau fel "nid rhaid" a "dyall." Ond manion yw'r rhain mewn llyfr hynod o werthfawr a diddorol gan awdur o'r radd flaenaf. "SYMUD A SIARAD." Norah Isaac. Llyfrau'r Dryw. Llyfr i athrawon yw hwn-llyfr 2 yn y gyfres "Gwneud a Dweud." Fel y dywedir ar y dechrau "pwrpas y llyfr yw rhoi, awgrymiadau o'r gwahanol ffyrdd o fynd ati i osod sylfeini'r dull drama o ddysgu." Dyma lyfr gwirioneddol werthfawr ac fe ddylai gael croeso mawr gan athrawon. Y mae cymaint o lyfrau a gwersi radio yn Saesneg ar y thema hon, fel mai gwych o beth yw cael llyfr mor ddiddorol a chynhwysfawr â hwn yn Gymraeg. Ac y mae'r darluniau yn gymorth mawr hefyd. Dyma awdur sy wedi gwneud cymaint i blant Cymru, ac yr ydym yn fawr ein dyled iddi eto am y gyfrol hon. Y mae yn un o'r rhai prin sy wedi llwyddo i fynd i fyd plentyn, ac yn ddigon mawr i ddweud bod plant wedi medru ei dysgu hithau hefyd ambell waith, fel yn hanes "Y Lleuad borffor." Y mae yma gyfres o ymarferion drama yn tyfu yn naturiol o fyd a bywyd y plant, ac y mae'r syniad o gael hwiangerddi fel sail gweithgar- eddau drama yn wych iawn. Y mae yma syniadau newydd a gwreiddiol a fydd o fudd i athrawon yr ysgolion cynradd. Dim ond un sy'n ferw o frwdfrydedd ei hunan yn y maes a allai roi llyfr mor fendigedig yn ein llaw. Gwelais ambell wall bach fel "ysogiant." Dymayn sicr un arall o gymwynasau Norah Isaac i Gymru. Y mae'r llyfr yn darllen fel nofel dda, ac yn gyforiog o asbri. Bydd yn gywilydd os na ddefnyddir ef. GWILYM ROBERTS.