Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ASTUDIO CYMDEITHAS-AGORIAD I FAES ANTHROPOLEG CYMDEITHASOL (II) DAFYDD JENKINS Mewn ysgrif flaenorol cyfeiriais at ddiddordeb a flagurodd yn ystod y ddeunawfed ganrif, diddordeb mewn arferion hynod trigolion gwledydd Asia, Affrica ac America. Cyfeiriais hefyd at y diddordeb yn arferion gwerin gorllewin Ewrop, arferion caru, priodi a chladdu, coelion ac ofergoelion, dulliau medi a chynaeafu ac ati. Es yn fy mlaen i ddweud mai cynnyrch y diddordeb hwn oedd casgliad helaeth o arferion unigol yn hytrach na chorff o wybodaeth. Mae aelodau unrhyw gorff yn wahanol i'w gilydd ond eto'n perthyn i'w gilydd a gyda'i gilydd. Ymysg y rhai a ymddiddorodd mewn arferion tramor ac arferion gwerin Ewrop fel ei gilydd ni chafwyd unrhyw syniadaeth gynhwysfawr i alluogi dynion i ddangos cysylltiad rhwng yr arferion unigol a'i gilydd ac i wneud un cyfanwaith ohonynt. Yr un yw'r ddedfryd ar gynhyrchion y gwyr dyngarol a fu'n cofnodi ffeithiau am fywyd tlodion gwlad a thref ym mlynyddoedd olaf y ddeunawfed ganrif ac yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ei hyd. Casglasant beth wmbreth o wybodaeth ffeithiol, ond ni welir yn eu gwaith gorff o syniadau i glymu'r ffeithiau gyda'i gilydd- i'w goleuo a'u hesbonio. Ond yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe gynigiwyd theori a fyddai, fe honnid yn ffyddiog, nid yn unig yn arddangos arferion pobloedd y byd a'r gwahaniaethau rhyngddynt, ond yn eu hesbonio hefyd. Ar hyn o bryd ni ddywedaf ddim am y syniadaeth hon ond mai syniadaeth datblygiad oedd hi, syniadaeth oedd yn esbonio'r presennol yng ngoleuni'r gorffennol, syniadaeth oedd (fe honnid) yn ddigonol i alluogi dynion i ddeall egwyddorion a deddfau anochel twf cymdeithas. Roedd yn ddigonol i'w galluogi i ddeall nid yn unig y gorffennol ond y dyfodol hefyd. Prin y byddai neb yn credu hyn heddiw ond yr wyf am drafod syniadaeth y bed- waredd ganrif ar bymtheg yn yr ysgrif hon, a thrafod yr adwaith yn ei herbyn mewn ysgrif arall. Mae gwreiddyn syniadaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg i'w gael yng ngwaith meddylwyr y ddeunawfed ganrif, ac efallai mai'i ffordd orau i gyflwyno hyn yn gryno yw trwy drafod dau o ymadrodd- ion y ganrif honno. Y ddau ymadrodd yw-natural history a con- jectural history. Gellir trosi'r rhain fel â ganlyn: natural history-hanes naturiaethol, conjectural history-hanes rhesymegol. Gwelir paham ymhen y rhawg.