Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SILYN— 1870-1930 SYR BEN BOWEN THOMAS "Bardd, pregethwr, diwygiwr cymdeithasol ac athro," meddai David Thomas am Robert Silyn Roberts yn y Bywgraffiadur Cymreig. Gellid ychwanegu 'gweinyddwr' oherwydd, wedi prin ddeng mlynedd yng ngweinidogaeth sefydlog y Methodistiaid Calfinaidd, hynny a fu wrth ei alwedigaeth. Rhwng 1912 a 1922 bu yn ei dro yn ysgrifen- nydd Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru ac yn Swyddog dros Gymru i hyfforddi milwyr clwyfedig y Rhyfel Byd cyntaf ar gyfer galwedig- aethau priodol newyddion. Wedyn o 1925 hyd ei farwolaeth, ef oedd yn brif symbylydd sefydlu rhanbarth Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr ac yn Ysgrifennydd Mygedol, cwbl ymroddedig iddi. Mab i dyddynwr-chwarelwr ymhen eithaf Cwm Silyn ydoedd, plentyn henoed, ail briodas. Roedd ganddo edmygedd di-ben-draw o gymeriad cadarn creithiog ei dad. Cynrychiolai'r ymgodymu anorfod rhwng dyn a'i amgylchedd. Dyma a welai yn yr ornest ddidrugaredd rhyngddo â chroen denau'r ffriddoedd ac â chreigiau'r hen fynyddoedd. 'Doedd dim arlliw o dosturi yn yr enillion prin a dynnai, ar eu gwaethaf, o'r ffridd a'r graig. Cofiaf amdano'n adrodd wrthyf am angladd hanner brawd iddo ar ddiwrnod gaeafol, anarferol oer, yng Nghwm Silyn. Rhyw ddyrnaid o gymdogion oedd wedi mentro'n gymwynasgar drwy'r eira mawr ac nid oedd y saer yn eu plith. Aros tan y funud olaf a'r dydd yn fyr. Yr hen wr, ei dad, yn mynd i'r cefn ac yn dychwelyd gydag offer saer. Yna'n mynd heibio at y parlwr bach i gau arch ei fab ei hun. Amneidio wedyn ar y gweinidog i 'godi'r angladd.' "Dim synnwyr cadw pobl i ddisgwyl ar dywydd fel hyn!" Ar derfyn yr orymdaith anodd i'r fynwent 'roedd y saer yno'n disgwyl yn ddiddos ddigon, a'r hen wr yn gweld dim bai arno am aros mewn lloches. Galwad i fyd ehangach oedd yr alwad o'r chwarel i'r weinidogaeth i lawer o gyfoedion Silyn, galwad i loywach nen, galwad i briffordd addysg, i Glynnog, Coleg Prifysgol y Gogledd a Choleg Diwinyddol y Bala. Fe gaed cip ar y nen loyw mewn oedfa grefyddol, mewn cyfarfod llenyddol ac eisteddfod yn Nyffryn Nantlle, ond fe ledai, ac fe ledai, o flwyddyn i flwyddyn. Deuai cymdeithas yn fwy, yn gyfoeth- ocach ac yn ddyrysach na'r hyn a olygai i hogiau Penygroes, a bywyd yn wahanol ei arwyddocád a'i bosibliadau. 'Roedd cryn dipyn mwy o gyffro a symud ynddo. Ac yng nghynteddau'r Coleg, daeth llenydd- iaeth a chelfyddyd yn gryfach eu hapêl. O dipyn i beth cawsant y trechaf, o ran diddordeb, ar ddiwinyddiaeth a materion eglwysig fel