Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODYN AR HANNER CAN MLWYDDIANT COLEG RHYNGWLADOL ELSINORE Gwyn ILLTYD LEWIS Sefydlwyd Coleg rhyngwladol y werin, yn Elsinore, Denmarc yn 1921 i hybu cyd-ddealltwriaeth rhyngwladol drwy gyfrwng addysg oedolion. Awgryma ei deitl Danaidd-Den Internationall Hojskole mai 'folk high school' yn nhraddodiad Grundtvig ydyw ond bod ei chenhadaeth yn eangach. Gall ei sefydlydd, Peter Manniche, sy'n awr yn 82, ac fu'n Brifathro yno am lawer o flynyddoedd, edrych yn ôl ar hanner can mlynedd o ddatblygiad. O'r cychwyn bu gan y coleg le cynnes yn ei galon i genhedloedd bychain, a bu i Gymru le blaengar ymysg rhain. Ysgrifennodd Dr. Manniche yn ddiweddar at rhai o'i ffrindiau Cymreig yn dwyn i gof y gefnogaeth ddiysgog a gafodd gan Cymry, yn enwedig gan Dr. Tom Hughes-Griffiths, Caerfyrddin, sydd wedi bod yn darlithio yn ysgolion haf Elsinore yn fwy rheolaidd na'r un athro arall o'r tu allan i Dden- marc, yn y cyfnod bore hwnnw. Roedd cyswllt hefyd rhwng Coleg Harlech ac Elsinore, a bu nifer o Ddaniaid yn treulio tymor neu ddau yn Harlech. Dychwelodd un ohonynt, Hans Rohr o Borups Hojskole, Copenhagen, i Harlech rai blynyddoedd yn ôl i ysgol haf Gymreig-Ddanaidd. Wedi iddo ymddeol, aeth Dr. Manniche i'r India i gynghori ar ddatblygu cymunedau. Ar hyn o bryd mae'n brysur yn ei gartref yn Espergaerde yn trefnu teithiau i'r rhai sydd am astudio Norwy, Sweden a Denmarc, teithiau o ddiddordeb arbennig i frodorion gwledydd sydd newydd ennill eu hannibyniaeth yn Asia ac Affrica. Mae hefyd yn adolygu ail argraffiad o'i lyfr Rural Development in the Changing Countries of the World (Gwasg Pergamon, Rhydychen). Mae Gwasanaeth Teledu Denmarc am wneud ffilm i ddathlu hanner can mlwyddiant y Coleg rhyngwladol. Gobeithiwn y dangosir fersiwn ohoni ar sgriniau'r wlad hon.