Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DOSBARTHIADAU NOS J. O. JONES Does dim byd yn fwy ffôl na chwyno ynglyn â'ch gwaith wrth rai nad ydyn nhw wrth yr un alwedigaeth. Distawrwydd llethol a geir yn ystafell athrawon pan gwyna athro ysgol nad oes ganddo ond tair gwers rydd yn ystod yr wythnos neu pan ochneidia darlithydd am ei fod yn darlithio am dair awr bum dydd o'r wythnos. Ecseismon ydw i wrth fy ngalwedigaeth ac mi fues innau yn ddiweddar yn ddigon ffôl i duchan am fod yn rhaid i mi alw mewn bragdy yn ogystal â mynd i'r rasus milgwn cyn y gallwn fynd am adre un diwrnod. "Wyt ti'n cael dy dalu am fynd hefyd?" gofynnodd un o'm gwrandawyr cenfigennus yn syn. Yn union fel y mae'r rhai sy'n trin llenyddiaeth wrth eu gwaith yn mwynhau seibiant yn y dafarn neu'r siop fetio, felly rwy innau'n cael hwyl ar fynd i ddosbarthiadau nos am fod fy ngalwedigaeth yn fy ngorfodi i dreulio cymaint o amser mewn lleoedd adloniant o'r fath. Yn yr Hydref mae mynd mawr ar ddarllen pamffledi lliwgar sy'n hysbysebu gwyliau mewn gwledydd tramor er y byddai'r mwyafrif o'r darllenwyr yn dychryn petai rhaid mynd ymhellach na'r glan-y-môr agosaf. Yn yr un modd rydw innau'n casglu rhaglenni dosbarthiadau nos yn rhestru bob pwnc dan haul er mod i'n gwybod yn iawn nad oes gen i ond un noson rydd bob wythnos. Ar y cychwyn roeddwn i'n gatholig iawn yn fy newis. Roeddwn i'n byw yn Llundain ar y pryd ac mi fues i'n ddisgybl mewn llawer math ar ddosbarth. Efallai y byddai seiciatrydd yn gallu datrys llawer o' mhroblemau wrth drafod y dewis. Pam, tybed, y dewisais ddysgu am gadw gwenyn pan oeddwn i'n byw mewn fflat yng nghanol tre Llundain? Ai o hiraeth am fynyddoedd grugog Cymru neu ynteu o awydd am bethau melys yn ystod y prinder ar ôl y rhyfel? 'Chedwais i rioed wenyn ond mae gen i wybodaeth ryfedd amdanyn nhw. 'Wyddech chi, er enghraifft, fod mél mewn cwch gwenyn yn eplesu ar ddamwain weithiau ac yn troi'n fath o fedd? Pan ddigwydd hyn mae'r gwenyn, fel y mab afradlon, yn treulio'u hamser yn meddwi ac yn cysgu nes daw'r stôr medd i ben, ac yna yn y gaeaf mae nhw'n Hwgu ac yn marw. Dyna i chi destun pregeth ar ddirwest Mi fues hefyd yn astudio drama, ac er nad ydw i am ymffrostio, rhaid i mi gofnodi mai fi a ddewiswyd mewn drama yn Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru yn Llanrwst, i wneud swn ceilio^ m ôl i'r llwyfan wedi i Pedr wadu Crist.