Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HEN A'R NEWYDD TOM OWEN Testun od i ysgrifennu arno yw hwn ond mae'r ymadrodd yn un a ddefnyddir yn gyffredin iawn wrth sôn am bron popeth y gellir meddwl amdano. Hen hen hanes fu maes astudiaeth ein dosbarth yn Llanllechid, dros gyfnod y tymor a aeth heibio, pwnc a ddewiswyd, mae'n debyg, am fod cymaint o hen olion Oes y Cerrig yn britho ein hardal, a'r awydd am gael gwybod rhywbeth amdanynt yn gryf. Mr. R. Levins, o Goleg y Brifysgol, Bangor, arbenigwr mewn Archaeoleg oedd ein peilot, a'i fedrusrwydd yn briwsioni damcaniaethau y cyfnod cyntefig hwn yn ein swyno, ac yn gosod rhyw ledrith ar ein meddyliau o wythnos i wythnos. 'Roedd ei negeseuau yn cael eu pobi i'n ham- gylchedd drwy gyfrwng ei huawdledd profoclyd a'i ffilmiau diddorol. Y Cytiau Crynion, yr Hen Wersyllau, a'r Carneddau, sydd erbyn heddiw yn adfeilion o dwmpathau cerrig sychion, a di-addurn, yn cael eu hail- greu yn aelwydydd, cestyll, a beddau, o dan ei sylwadau medrus. 'Roedd popeth mor real, nes ennyn ynom yr awydd i dalu ymweliad â rhai ohonynt, a hyn a'n hanogodd i drefnu taith i'r pwrpas hwn, pan ddeuai haul, a thesni'r gwanwyn. Daeth Gẁyl Banc y Gwanwyn, a thesni haul Mai, a blodau'r eithin yn cystadlu â'i gilydd. Ar awgrym ein hathro penderfynwyd mynd ar daith i Fôn. Ble gwell na'r hen sir hon, gyda'i chysylltiadau ymhell i'r gorffennol, i asio'r cyswllt rhwng yr hen a'r newydd, er nad oedd gen- nym amcan beth fyddai'r cysylltiad hwn ar gychwyn y daith. Bar- clodiad y Gawres, ger Tŷ Croes, a'r "Cable Bay" oedd ein hymweliad cyntaf, ac er fy mod yn bersonol wedi ymweld â'r llecyn hwn o'r blaen, y pryd hynny yr oedd gwarchodiaid y Weinyddiaeth Waith wedi fy rhwystro rhag dod i gysylltiad agos â'i chyfrinach! Y tro hwn, yr oedd yr athro wedi llwyddo i gael benthyg yr agoriad, i'n galluogi i fynd i mewn i'r gell, i'w dirgel berfeddion, i gael sefyll ar fedd rhai a gladdwyd dros bedair mil o flynyddoedd yn ôl. Pwy oedd y Gawres? 'Does neb a wyr, ond gan fod y cerfiadau ar y cerrig,-patrwm asgwrn pennog, a chylchoedd troelliog, yn debyg i rai yn yr Iwerddon, mae'n bosibl mai gwraig o'r Ynys Werdd ydoedd. Ymlaen â ni i Drefignath, ym Mae Trearddur. Bedd tebyg i un y gawres oedd yma hefyd, ond fod celloedd hwn wedi eu cyfyngu, a'r mynediad iddynt yn anweledig. Yr oedd amryw o hen olion eraill yn y llecyn, ond ni ellid damcan- iaethu beth oeddynt. O fewn tafliad carreg, yr oedd adeilad newydd, ac anferth, y Rio Tinto, a diddorol oedd dirnad fod diwydiant cyfoes yn blaguro ar faes lIe bu'r hen ddiwydrwydd cyntefig. Mynydd Caergybi, gerllaw goleudy y "South Stack" oedd ein hym- weliad nesaf, a dyma newid o fyd y beddau, i fyd y rhai byw, oherwydd