Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYLANWAD Prin oedd y llyfrau yng nghongl y gegin, Rhyw "Gannwyll y Cymru" a "Thaith y Pererin"; A chyfrol yn adrodd am helynt y caethwas, Ac ynddo ddihareb i ateb pob pwrpas. At hwnnw y tynnwn am chwedlau'r morgrugyn, Ac am y frân yn cystadlu â'r asyn; Lle sonnid am lwynog a grawnsypiau diflas, Llygoden yn arbed y llew rhag galanas. Darllenais y straeon, do droeon fy hunan, Gan addo eu gadael pan dyfwn i oedran; Ni chofiaf yn eglur eu cynnwys yr awron, Ond dyma fy llusern drwy fyrdd o dreialon. Cefneithin. D. H. CULPITT. APEL AT DDARLLENWYR "LLEUFER" YR ADRAN HANES, COLEG y BRIFYSGOL, ABERTAWE. Yr wyf yn casglu deunydd yn ymwneud â gyrfa fy ewythr, John Davies, ysgrifennydd y W.E.A. yn neheudir Cymru o 1919 i 1937. Tybed a oes gan ddarllenwyr Lleufer unrhyw lythyrau oddi wrtho, neu unrhyw atgofion amdano? Os oes, byddwn yn falch iawn os dônt i gysylltiad â mi. Byddwn yn cymryd y gofal mwyaf o unrhyw ddog- fennau a anfonid i mi a dychwelwn hwy i'r perchennog cyn gynted ag y byddai modd. Yn gywir iawn, (Dr.) JOHN DAVIES.