Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y NAILL BETH DRWY'R LLALL DR. GWYN THOMAS "Fel wagan gynta'r ryn." Mae'r gyffelybiaeth hon yn un adnab- yddus yn rhai o ardaloedd chwarelyddol y Gogledd i gyfleu digwilydd- dra. Creu argraff o'r digwilydd-dra trwy gyfrwng y wagan a wneir. Mae yna ddigonedd o enghreifftiau ar lafar o gyfleu un peth drwy gyfrwng rhywbeth arall: Fel caseg mewn corn (am wneud rhywbeth yn llafurus); Fel cangen ha' (am ferch dal); Fel gafr ar dranna' (am berson gor-nwydus); Yn llwyd fel llymru. Fe ellid mynd ymlaen am dudalennau. Y mae pawb ohonom yn gyfarwydd iawn â chyffelybiaethau fel y rhain: y mae'n nhw, mewn gwirionedd, yn rhan o'n ffordd ni o siarad. Wrth sôn am un peth drwy gyfrwng rhywbeth arall yr ydym ni'n teimlo ein bod yn creu argraff gryfach ohono fo. Yr un peth a geir mewn trosiad ond fod y cyswllt rhwng dau beth wedi' ollwng- does yna ddim 'fel.' 'Hen garpan,' meddir, gan ddef- nyddio ffurf fenywaidd o 'cerpyn,' am wraig go dlodaidd; hynny ydi, fe wneir y wraig a'r cerpyn yn un yn lle dweud hen wraig fel cerpyn. Ceir peth cyffelyb mewn symbol. Arwydd ydi symbol. Mae Z ar arwydd ffordd yn symbol o ryw fath fod troadau ar ddod. Mae'r groes yn symbol o Gristionogaeth; oen yn symbol o ddiniweidrwydd; cigfran yn symbol o farwolaeth. Y mae'r rhain i gyd yn symbolau cyfarwydd i'r sawl sy'n gynefin â llenyddiaeth, â chrefydd ac ag ofer- goel: y maent yn symbolau traddodiadol. Gellid dadlau nad oes llawer o werth i symbol onid oes nifer o bobl yn gwybod beth yw ei ar- wyddocâd. Eithr mewn seicoleg arwydd yn lle rhywbeth arall ydyw, arwydd a all gael ei godi i'r ymwybod yn lle rhywbeth arall, rhywbeth na ddymuna person ei gydnabod yn amlach na pheidio. Rhan o waith seiceiatrydd ydi ceisio datrys y symbolau a gweld beth y mae rhai o'r lluniau sy'n codi i freuddwydion pobl yn ei olygu. Breuddwydiodd Ffaro am saith buwch dew yn codi allan o afon, ac yna am saith buwch denau yn eu dilyn ac yn eu llyncu. Rhaid oedd iddo gael Joseff (fel seiceiatrydd o flaen ei oes) i ddatrys y symbolau iddo ac i esbonio mai cynrychioli saith mlynedd o lawnder yr oedd y gwartheg tewion ac mai cynrychioli saith mlynedd o newyn yr oedd y rhai tenau. Yn yr hyn a elwir yn Farddoniaeth Symbolaidd, sef y farddoniaeth a ddaeth i fod yn Ffrainc yn ystod y ganrif ddiwethaf, un o swyddogaethau symbolau ydi creu argraff o fyd y tu hwnt i'r synhwyrau. Y mae llawer