Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAVID THOMAS GUY Teyrnged gan MOELWYN I. WILLIAMS Braint ac anrhydedd yw hi i mi gael fy ngwahodd gan aelodau Cyngor Rhanbarth Deheudir Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweith- wyr i sgrifennu gair o deyrnged i D. T. Guy, hen gyfaill a chyn- gydweithiwr, ar ei ymddeoliad o'i swydd fel Ysgrifennydd Rhan- barthol. Ganed 'D.T.' (fel y'i gelwir gan ei gydnabyddion) ym mhentre bach Iiottrog, ger Penclawdd, yn Llanrhidiau Uchaf, Sir Forgannwg. ar 22 Tachwedd, 1905. 'Roedd adlais Diwygiad 1904/5 yn parhau yn yr awyr ac mae'n sicr bod yr 'enthusiasm' oedd ynghlwm wrth y Diwygiad hwnnw wedi treiddio i mewn i'w wythiennau yn gwbl ddiarwybod iddo ef ei hun. Ond nid dyma'r amser i ymdrafod â'r holl ddylanwadau hynny a fu arno yn nyddiau ei febyd. Derbyniodd ei addysg gynnar yn yr Ysgol Elfennol ym Mhen- clawdd, ac fel nifer mawr o'i gyfoedion gadawodd yr ysgol pan yn bedair-ar-ddeg oed a mynd i weithio ar fferm ei dad-cu a'i fam-gu, ond mewn ychydig amser aeth oddi yno i'r lofa ym Mherthlwyd ac yn Nynfant heb fod nepell o Abertawe. Yn ystod y cyfnod 1921-29, enynnwyd ynddo'r awydd i'w addysgu ei hun ymhellach, ac o ganlyniad bu'n mynychu'n gyson ddosbarrhiadau'r W.E.A. o dan ofal y Parchedig David Richards ym Mhenclawdd. Y cam nesaf oedd iddo gael ei dderbyn ym 1929 i Goleg Harlech lle'r oedd Ben Bowen Thomas yn Warden. Yna, o Goleg Harlech aeth yn ei flaen i Goleg Prifysgol Cymru, yn Aber- ystwyth, lie'r enillodd radd B.A. gydag anrhydedd mewn Economeg ym 1934. Yn y flwyddyn ganlynol derbyniodd y dystysgrif a roddai hawl iddo i ddysgu mewn ysgolion. Ar ôl gadael y Coleg ym 1935, fe'i perswadiwyd gan y diweddar Mansel Grenfell, trefnydd egnïol ac effeithiol yr W.E.A. yng ngor- llewin Morgannwg, i gynnal dosbarthiadau o dan nawdd yr W.E.A. yng Nghwmbwrla, Bryngethin, Abertawe a Llanmorlais. Yna, ymhen rhyw flwyddyn penodwyd 'D.T.' yn Swyddog Addysg ac ar ôl hynny'n Warden ar yr Educational Settlement' ym Merthyr. 'Roedd y 'Settle- ment' gyda'r canolfannau pwysicaf a sefydlwyd yn Neheudir Cymru yn ystod y tri-degau argyfyngol i geisio rhoddi nodded ac amddiffyn ysbrydol a meddyliol i'r di-waith yn eu cynni a'u hanobaith. Mawr fu'r parch at 'D.T.' am ei ymdrechion yn y ganolfan ym Merthyr.