Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PLWYFOLDEB AMSER DR. GARETH EVANS Nid oes un gair sy'n cael ei gamddeall mor llwyr ac mor gyson yn awr â'r gair plwyfol. Yn arbennig felly yng Nghymru, sy'n clywed pob ffwl yn defnyddio hwn i gondemnio syniadau nad yw'n eu deall. Y mae pob cenedlaetholwr Cymreig yn hen gyfarwydd â chael ei ddis- grifio'n blwyfol gan rai â'u gorwelion mor eang â'r Western Mail! Am hyn, am fod y syniad mor aml yn lloches ffyliaid, fe gredaf i fod tuedd ynom i fethu gweld gwir natur rhai o arwyddion pwysicaf ein hamserau, nid yma yng Nghymru'n unig, ond yn gyffredinol yng ngwareiddiad ,y Gorllewin. Canys y mae ein hoes ni yn fwy plwyfol yn yr ystyr ddyfnaf, beryclaf, na'r oesoedd a fu. Ar un olwg nid oes synnwyr mewn dweud hyn. Mae'n wir fod pobl yn symud o amgylch y byd fwy nag erioed o'r blaen, gwir fod teledu yn dod â phellteroedd byd at y pentan. Er nad yw hyn ynddo'i hun yn ehangu gorwelion, am fod yn rhaid cael y gallu i weld ac i sylwi, a bod gwir yn y rhigwm- Join the navy and see the world What did we see-we saw the sea -eto i gyd y mae gennym y cyfle i fod yn llai plwyfol yn yr ystyr yma. Un math o blwyfoldeb sydd ynghlwm wrth y pethau hyn. Galwaf ef yn blwyfoldeb gofod. Y mae plwyfoldeb pwysicach. Galwaf ef yn blwyfoldeb amser. Hwn yw gwae ein cyfnod ni. Y mae'r ymdeimlad o ymestyniad mewn amser, o gwmwl tystion y canrifoedd yn fregus ac yn frau, ac yn fwy felly nag erioed o'r blaen. Y mae plwyfoldeb amser yn bwysicach na phlwyfoldeb gofod oblegid mai mewn amser ac nid mewn gofod y mae hanfod gwareiddiad. Rhywbeth sy'n cael ei dros- glwyddo mewn amser o un cenhedlaeth i'r llall, ac nid rhywbeth y mae pob cenhedlaeth yn ei ddarganfod drosti ei hunan yw gwareiddiad. Pe gofynnid pa fath oes yw hon, mae'n debyg mai'r ateb fyddai oes wyddonol dechnolegol. Ateb bas iawn yw hwn. Yn gyntaf peth y mae gwahaniaeth enfawr rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg. Pwrpas gwyddoniaeth yn fras yw ceisio deall natur y cread a dod o hyd i'r deddfau hynny sy'n rheoli ei wneuthuriad. Pwr- pas technoleg yw datblygu nerth a gallu dyn yn sgîl y deall a rydd gwyddoniaeth. Er fod yna gysylltiad, y mae pwrpas a meddylddrych y ddau beth yn dra gwahanol, canys y mae y nod yn wahanol. Deall o ran yw pob deall gwyddonol, deall, os mynnwch, mewn drych trwy ddameg. Y mae iddo ei broblemau oesol. Y mae gwir hanfodol yn y ddau rigwm bach: