Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DEALL BARDDONIAETH DYWYLL DAFYDD ELIS THOMAS Cwyn gyson gan lawer o ddarllenwyr barddoniaeth mewn Dos- barth, Pabell Lên a Chylch Llenyddol ydy bod nifer fawr o'n beirdd cyfoes ni yn cynhyrchu stwff sy'n dywyll. Yn eu tro fe gyhuddwyd Euros Bowen, Waldo Williams, Bobi Jones, Gareth Alban Davies, Derec Llwyd Morgan ac eraill o sgrifennu llawer o gerddi sy'n anodd onid yn amhosibl i'w deall. Amcan y gyfres yma ydy ceisio agor y ffordd i ddarllen a deall gwaith rhai o'r beirdd yma. Ond mi rydw i'n awyddus iawn i wneud y peth yn fwy ar lun trafodaeth nag ar lun darlith, oherwydd mai felly rydw i'n siwr, y cawn ni fwya o fudd o'r gyfres. Ac felly mi garwn i wadd sylwadau neu gwestiynau ar yr hyn fydd yn cael ei ddadlau yn y nodiadau hyn bob tro, ac os oes rhai cerddi arbennig, neu ddarnau o gerddi, yr hoffech chi gael eu trafod yn y gyfres a wnewch chi ofyn am hynny. Medrwch anfon gair i Goleg Harlech. Dull y gyfres fel arfer fydd trafod cerddi unigol o waith y beirdd, ond i ddechrau rhai pwyntiau cyffredinol. Os oes yna dywyllwch ynglyn â barddoniaeth ddiweddar yna'r cwestiwn cynta i'w godi ydy pam? Ar draul gorsymleiddio 'chydig ar y broblem fe fynnwn i ateb hwnna mewn un gair. Rhagfarn, neu yn fwy poleit, rhagdyb sef tybiaeth ymlaen llaw. Mae pawb ohonom ni'n mynd at ddarn o farddoniaeth efo syniad yn ein pennau debyg i beth y dylai'r darn fod. Mae ganddom ni syniadau gweddol bendant yn ein meddyliau o beth ydy barddoniaeth ac i beth mae o'n dda. Fe gawn ni'r syniadau hynny o'r farddoniaeth yr ydyn ni'n arfer ei darllen. Buan y gwelwn ni felly bod llawer o ddarllenwyr barddon- iaeth yn byw mewn cylch cau. Dim ond un math o farddoniaeth y mae nhw yn ei ddarllen, ac felly dim ond un math o syniad sydd ganddyn nhw am farddoniaeth, felly dim ond un math o farddoniaeth yr an nhw i chwilio amdano, ac yn y blaen ac yn y blaen. Fan yma y daw cyfrifoldeb y beirniad llenyddol i mewn. Rhaid gwneud yn glir fan yma beth a olygir wrth feirniad llenyddol. Syniad arwynebol am feirniad llenyddol ydy dyn sy'n rhoi gweithiau llen- yddol mewn trefn un dau tri mewn eisteddfodau, er y gall beirniad steddfod weithiau godi uwchlaw ffiniau cyfyng y diwydiant cystadlu. Swyddog cysylltiadau cyhoeddus ydy'r beirniad llenyddol go iawn, swyddog yn gweithredu dros lenyddiaeth ei gyfnod ac yn ceisio ei