Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODION O GOLEG HARLECH I. WILLIAMS HUGHES Cafwyd nifer helaeth o geisiadau eto eleni a rhif terfynol y rhai a gofrestrodd oedd 139, y rhif uchaf eto. O'r rhain 'roedd 54 o fyfyr- wyr ar ail flwyddyn cwrs diploma Prifysgol Cymru, 77 ar flwyddyn gynta'r cwrs hwnnw a'r gweddill yn fyfyrwyr blwyddyn. Bu arholiadau'r diploma ym mis Mehefin a bu 48 yn llwyddiannus. Fe fydd yn rhaid i dri ail-eistedd un pwnc a methodd dau. O'r rhain i gyd aeth 39 i Brifysgolion yng Nghymru a Lloegr a dau i golegau hyfforddi. Eleni hefyd pasiwyd mai swydd am dair blynedd fydd swydd yr Is-Warden ac apwyntiwyd Mr. W. G. Hughes. Ymunodd amryw o aelodau newydd â'r staff i ddysgu'r pynciau â ganlyn: Saesneg, Athron- iaeth, Hanes a Seicoleg Cymdeithasol. Ychydig ar ôl dechrau'r tymor ymunodd Mr. Dafydd Elis Thomas â'r staff i ddysgu astudiaethau Cymreig. Cynyddodd y gronfa ddatblygu o £ 166,678 i £ 177,167, ac mae'r cynnydd yn un calonogol iawn. Mae'r adeiladu yn mynd rhagddo yng nghyffiniau'r hen Neuadd Fawr, a dylai'r gwaith gael ei gwblhau erbyn Ebrill 1972. Cafwyd grant o £ 60,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru tuag at y theatr a fydd yn galon i'r rhan newydd. Blwyddyn felly o gynnydd ac o newid fu hon eto.