Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU The Radical Tradition in Welsh Politics-a study of Liberal and Labour Politics in Gwynedd 1900-1920, Dr. Cyril Parry (University of Hull Occasional Papers in Economic and Social History, No. 2). Mae'r astudiaeth hon gan Dr. Cyril Parry o Goleg y Brifysgol, Bangor, yn ychwanegiad y bydd croeso iddi i'r defnydd (ar chwâl braidd) sydd ar gael ar hanes gwleidyddol a chymdeithasol Gogledd Orllewin Cymru. Yng ngwledydd Prydain yn gyffredinol, y cyfnod 1900-1920 oedd cyfnod dirywiad dramatig y Blaid Ryddfrydol a dat- blygiad tebyg yn nhrefniant diwydiannol a pholiticaidd Llafur. Fe roes Dr. Parry y dasg iddo'i hun o olrhain y digwyddiadau hyn o fewn terfynau cymdeithasol arbennig, hynny yw yn siroedd Môn, Arfon a Meirionnydd. A siarad yn fras ei gasgliad yw fod y rhan hon o'r wlad, i raddau helaeth, yn ddrych o'r patrwm cyffredinol ag eithrio rhai ardaloedd yng nghadarnle'r rhyddfrydwyr. Yn y pum degau y daeth yr ergyd farwol iddynt fel plaid, ond fe balmantwyd y ffordd yn ugain mlynedd gynta'r ganrif. Mae'n addysgiadol darllen yr astudiaeth ranbarthol hon ochr yn ochr â gwaith ehangach K. O. Morgan-"Wales in British Politics 1868-1922," gan fod y ddau waith mewn amryw ffyrdd yn perthyn i'w gilydd. Yn yr ymgais i gael llais arbennig Cymreig yn San Steffan, a'r modd y sylweddolwyd breuddwydion radicaliaeth Cymru ym myd crefydd, y tir, ac addysg y tu fewn i'r Blaid Ryddfrydol y mae diddor- deb Mr. Morgan. Pwnc y llyfr dan sylw yw gwendidau'r blaid honno ar ôl iddi gyrraedd y nod ac fel y bu i Lafur ymdrefnu a pheri rhwyg y tu fewn i arweinyddiaeth y rhyddfrydwyr. Ar ôl tynnu sylw'r byd gwleidyddol Prydeinig ati'i hun yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe unwyd Cymru eto'n glos á gweddill y wladwriaeth oherwydd bod y Blaid Lafur yn pwysleisio teyrngarwch dosbarth yn hytrach na theyrngarwch i gymdeithas neu fro. Mewn gwirionedd y mae â wnelo astudiaeth Dr. Parry ag ym- ledaeniad gwleidyddiaeth Brydeinig yn y rhan honno o Gymru oedd gryfaf ei gwrthsafiad i ddylanwadau gwleidyddol estron. Trefnir y defnydd fel â ganlyn. Mae'r bennod gyntaf yn delio â'r mudiad Llafur yng Ngwynedd cyn 1900 gan roi sylw i'r grwpiau pwysicaf-y chwarelwyr a'r gweision fferm. Ffurfiwyd y dosbarth cyntaf yn undeb yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg (sefydlwyd Undeb y Chwarelwyr yn 1874) a brwydrasant eu brwydrau enwog yn nwy streic y Penrhyn 1896-7 a 1900-1903. Ni ffurfiwyd yr ail ddosbarth yn undeb, yn naturiol ddigon. Yr oedd hyd yn oed