Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I grynhoi-mae arnom ni ddyled i Dr. Parry am ei astudiaeth ystyriol. Mewn 76 o dudalennau fe roes ganfas politicaidd eang i ni a rhoi astudiaeth ranbarthol ogleisiol o fywyd cymdeithasol a pholitic- aidd Gwynedd yn ystod blynyddoedd dechrau'r ganrif bresennol. Er fod yr awdur yn sosialydd pendant, nid yw'n gadael i hyn ymyrryd â chydbwysedd ei ymresymiad. Dim ond ar un pwynt y buasai'r adolygwr-sydd heb fod yn hollol gydweld â'i ddaliadau a dweud y lleiaf, yn dal i ragfarn gibddall lygad-dynnu'r awdur-a hynny pan yw'r awdur yn cysylltu cenedlaetholdeb yn arwynebol rwydd â hiliogaeth. Fodd bynnag ceir y sylwadaeth rhwng cromfachau fel petai, ac nid dyma'r lle i ddadlau ag o ar y pwnc. Pwynt arall cyn belled ag y mae prynwyr yn y cwestiwn ydy'r pris. Mae'n sicr o wneud y llyfr yn rhy ddrud i lawer o bobl. Mae un yn methu deall pam na allai Gwasg Prifysgol Cymru fod wedi cyhoeddi'r astudiaeth hon a hynny am hanner y pris. DR. LEWIS W. LLOYD. Coleg Harlech. Myfi Pip. Beti HUGHES. Llyfrau'r Dryw. Y mae talfyriad a throsiad Beti Hughes o Great Expectations Charles Dickens, dan y teitl Myfi Pip yn werth ei gael. Nid wyf yn un o'r rheini sy'n teimlo mai gwastraff o amser yw cyfieithu o'r Saesneg ar gyfer darllenwyr sydd eisoes yn gallu darllen yr iaith honno yn rhwydd. Yr ystyriaeth bwysicaf i mi yw paratoi cymaint ag sy'n bosibl o ddeunydd darllen yn yr iaith Gymraeg ar gyfer plant a phobl. Estyn ein horiau cyswllt â Chymraeg yw'r nod i anelu ato, ac os yw cyfieithu defnydd diddan o'r Saesneg yn foddion i wneud hyn i aelodau'r gymdeithas yna dylem ei groesawu. Pan ystyriwn mai ar gyfer darllenwyr ifanc y paratowyd Myfi Pip, y mae lle i lawenhau gan fod cymaint o ddarllenwyr barus ac anniwall yn yr oed hwn sy o angenrhaid yn troi oddi wrth ddarllen Cymraeg am fod diffyg digon o ddeunydd cyffrous a bywiog ar eu cyfer. Yr achwyniad cyson a glywir ymhlith athrawon yw fod dirywiad trist yn ansawdd iaith synhwyrus y plentyn o Gymro, ac un o'r ffyrdd sydd gennym i geisio gwrthweithio'r adwyth yma yw sicrhau fod rhaglen ddarllen plant yn helaeth ac yn amrywiol. Y mae trosiad fel Myfi Pip yn ychwanegiad sylweddol at swmp y rhaglen hon. Mae'r trosiad yn effeithiol a gafaelgar, a'r talfyrru'n naturiol wedi peri bod y stori ei hun yn cael ei chyflymu, newid digon derbyniol, mae'n siwr, yng ngolwg darllenwyr trydydd chwarter yr ugeinfed ganrif. Eto wrth docio ceisiwyd peidio â distrywio'r nodweddion arbennig a gysylltwn â Dickens, ei ddawn i greu awyrgylch i'n dych-