Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

rhy deyrngar i'w phlaid i sôn am y frwydr a fu â'r elfen wrthgymreig ynddi. Brawddeg o eiddo ei chwaer yn y cyflwyniad sy'n egluro rhai o'i sylwadau cynnil. Elfen arall yn ei hymwybod sosialaidd yw ei chonsyrn dwys a'i chydymdeimlad gweithredol â phroblem henaint, a phlant dan anfantais, dwy broblem sy'n poeni cymdeithas er cymaint fu gofal y Wladwriaeth Les. Bu rhy ychydig o ysgrifennu ar broblemau amryw- iol y rhai methedig eu cyrff a'u meddwl, yn Gymraeg. Dim ond cil-agor y drws a wneir yn y gyfrol, mewn dwy araith ar agor canolfan gweithio yn Llanelli. Yr un ymateb sensitif a roes fod i'r erthyglau ar U.D.A. a Sieco- slofacia, sef marw'r brodyr Kennedy ac ymosod Rwsia ar wlad fach a'r awdur wedi teithio ar ddaear y ddwy. Ceir sensitifrwydd sy'n ymateb yn ddig i adroddiadau anghywir y Wasg. Hawdd cydymdeimlo â hi, oherwydd dawn annifyr gohebwyr i wyro ystyron brawddegau. Dengys yr ysgrif olaf, "Plant a Chrefydd" na thorrodd ei chysylltiad â chapel, fel llawer o'i chyd-sosialwyr yn Ne Cymru. Mae yn y llyfr hefyd saith o storïau sy'n dangos yr un diddordeb a'r cydymdeimlad dwfn â phobl ar lawr ag a grybwyllwyd uchod. Ar- ddull hanesiol sydd iddynt. Pebaent yn storïau byrion llenyddol byddai dyn yn beirniadu un neu ddwy fel rhai anodd eu credu Ond rhaid cymryd gair y golygydd mai storïau gwir ydynt. Adlewyrchu tristwch bywyd, yn ei drychineb, ei siom a'i ddadrith a wnânt gan amlaf, a diwedd oes yr awdur, efallai, yn taflu ei gysgod arnynt. Mae'n dda mai at ddechrau llyfr y lleolir hwy, a bod ysbryd mwy sionc ac ymosodol yn eu dilyn. Mae'r gyfrol yn weddol lân o wallau. Oni fyddai "oedrannus" yn well gair na "hen" ar dudalen 60, gan fod i'r olaf arlliw anghynnes? Rwyn siwr mai "cyrff" a ddylai fod hefyd yn lle "cyfrif' ar dudalen 104. Cofnodion. G. J. Roberts. Llyfrau'r Dryw, tt 108, pris 60cn. Llyfr yw hwn o ddeuddeg ysgrif fer ac un pasiant, sy'n llwyddo i gostrelu gwin a wermod y gorffennol drwy lygad a phrofiad bardd ac offeiriad. Â'r gorffennol agos y delia'r ysgrifau; arferion cyffredin pobl syml y wlad. Y mae'n bencampwr ar ddisgrifio'u hamryw orch- wylion, megis crydda a hel gwichiaid, sy'n dangos fod ganddo lygad craff, sylwgar, a geirfa gyfoethog i allu corlannu eitemau dinod bywyd. Ond nid yw'n bodloni ar hynny chwaith. Cawn ef yn portreadu pobl; gwerin gyffredin a distadl. Amlwg yw ei fod wrth ei fodd yn eu plith, er y gall fod yn finiog, braidd wrrh ddisgrifio rhai anghynnes, fel